Top 10 similar words or synonyms for gnaeus

publius    0.948584

licinius    0.944255

lucius    0.941415

gaius    0.931557

quintus    0.927155

lucullus    0.919883

sextus    0.917619

maximus    0.915795

domitius    0.913245

scipio    0.912808

Top 30 analogous words or synonyms for gnaeus

Article Example
Gnaeus Domitius Corbulo Roedd Corbulo yn briod a Cassia Longina, a chawsant ddwy ferch. Daeth yr ieuengaf o'r ddwy, Domitia Longina, yn wraig yr ymerawdwr Domitian.
Gnaeus Pompeius Magnus Daeth Pompeius i gytundeb a Iŵl Cesar a Crassus i rannu grym, a phriododd Pompeius ferch Cesar, Julia. Bu farw Julia wrth eni plentyn yn 54 CC, ac yn ddiweddarch y flwyddyn honno, lladdwyd Crassus gan y Parthiaid. Yn 52 CC priododd Pompeius Cornelia Metella, merch Quintus Caecilius Metellus Scipio, un o elynion pennaf Cesar. Cyn hir aeth yn rhyfel rhwng Pompeius a Cesar. Pan groesodd Cesar Afon Rubicon yn 49 CC, enciliodd Pompeius i Brundisium cyn croesi i Wlad Groeg. Croesodd Ceasr a'i fyddin ar ei ôl. Gorchfygwyd Pompeius gan Cesar ym Mrwydr Pharsalus yn 48 CC, a ffodd i'r Aifft. Pan gyrhaeddodd yno, llofruddiwyd ef ar orchymyn y brenin Ptolemi XIII.
Gnaeus Domitius Corbulo Cadfridog Rhufeinig oedd Gnaeus Domitius Corbulo (tua 7 - 67). Ganed ef yn yr Eidal; roedd ei dad yn aelod o Senedd Rhufain. Bu'n gonswl yn 40 dan yr ymerawdwr Caligula, oedd yn frawd-yng-nghyfraith iddo.
Gnaeus Domitius Corbulo Yn 52, gwnaed ef yn lywodraethwr talaith Asia. Wedi marwolaeth Claudius yn 54, gyrroedd yr ymerawdwr newydd, Nero, ef i'r dwyrain i ddelio a thrafferthion yn Armenia. Yn 58, ymosododd ar Tiridates I, brenin Armenia, oedd yn frawd i Vologases I, brenin Parthia. Cipiodd Corbulo ddinasoedd Artaxata a Tigranocerta, a gwnaeth Tigranes, oedd yn ufudd i Rufain, yn frenin Armenia.
Gnaeus Domitius Corbulo Erbyn hyn, roedd nifer o gynllwynion yn erbyn Nero yn Rhufain, ac roedd mab-yng-nghyfraith Corbulo, Lucius Annius Vinicianus, ynghlwm yn un o'r rhain. Daeth Nero i amau Corbulo ei hun, ac yn 67 galwodd Corbulo ato i Wlad Groeg. Pan gyrhaeddodd Cenchreae, porthladd Corinth, rhoddwyd gorchymyn iddo i'w ladd ei hun, a gwnaeth yntau hynny.
Gnaeus Pompeius Magnus Cadfridog a gwleidydd Rhufeinig oedd Gnaeus (neu Cnaeus) Pompeius Magnus (29 Medi 106 CC–28 Medi 48 CC).
Gnaeus Pompeius Magnus Yn 77 CC gadawodd yr Eidal am Sbaen i ymuno a Quintus Metellus Pius yn erbyn Quintus Sertorius, un arall o gefnogwyr Marius. Ni chafodd lawer o lwyddiant ar y cychwyn; roedd Sertorius yn elyn anodd ei orchfygu. Fodd bynnag yn 72 CC llofruddiwyd Sertorius gan un o'i swyddogion ei hun, Marcus Perperna Vento, a gallodd Pompeius orchfygu Perperna y flwyddyn ddilynol i ddod a'r rhyfel yn Sbaen i ben.
Gnaeus Pompeius Magnus Dychwelodd Pompeius a'i fyddin i'r Eidal yn 71 CC. Roedd Crassus yn ymladd yn erbyn y caethweision dan arweiniaid Spartacus, ac newydd eu gorchfygu mewn brwydr fawr. Daeth Pompeius a'i fyddin ar draws gweddillion o fyddin Spartacus a'u gorchfgu, ac yna hawlio ei fod wedi rhoi diwedd ar y rhyfel, gan ennyn cynddaredd Crassus.
Gnaeus Pompeius Magnus Ganed ef Picenum, lle roedd ei dad, Pompeius Strabo, yn ŵr cyfoethog ond heb fod yn aelod o'r hen deuluoedd oedd yn amlwg yng ngwleidyddiaeth Rhufain. Er hynny daeth ei dad yn gonswl yn 89 CC.
Gnaeus Pompeius Magnus Bu farw Pompeius Strabo yn 87 CC, yn ystod yr ymryson rhwng Gaius Marius a Lucius Cornelius Sulla. Pan ddaeth y newyddion yn 84 CC fod Sulla ar fin dychwelyd i'r Eidal wedi'r rhyfel yn erbyn Mithridates, brenin Pontus, cododd Pompeius fyddin o dair lleng yn Picenum i'w gefnogi. Enillodd ffafr Sulla, a'i perswadiodd i ysgaru ei wraig i briodi Aemilia Scaura, llysferch Sulla. Dangosodd Pompeius ei hun yn gadfridog galloug yn y rhyfeloedd hyn, yn yr Eidal ac yna yn ymladd yn erbyn cefnogwyr Marius yng Ngogledd Affrica a Sicilia. Cipiodd Sicilia yn 82 CC.