Top 10 similar words or synonyms for sextus

nepos    0.927942

gnaeus    0.917619

quintus    0.903403

agrippa    0.902148

longinus    0.896699

caecilius    0.896151

publius    0.894239

tullius    0.894093

servius    0.893186

valerius    0.891182

Top 30 analogous words or synonyms for sextus

Article Example
Sextus Julius Frontinus Yn y flwyddyn 70 roedd yn braetor, ac yn 75 penodwyd ef yn llywodraethwr Prydain i ddilyn Quintus Petillius Cerialis. Bu'n ymladd yn erbyn y Silwriaid, a llwyddodd i orchfygu'r llwyth hwnnw, oedd wedi gwrthwynebu Rhufain am bron 30 mlynedd. Sefydlodd ganolfan newydd yng Nghaerllion ("Isca Silurum") i'r ail leng, Legio II "Augusta", a rhwydwaith o gaerau llai. Dilynwyd ef gan Gnaeus Julius Agricola yn 78.
Sextus Julius Frontinus Yn 95 penodwyd ef i'r swydd o "curator aquarum" yn Rhufain, yn gyfrifol am gyflenwad dŵr i'r ddinas. Ysgrifennodd lyfr "De aquis urbis Romae", yn rhoi disgrifiad o gyflenwad dŵr Rhufain, ei hanes a'i agweddau cyfreithiol. Un arall o'i weithiau oedd "De re militari", llyfr ar faterion milwrol, nad yw wedi goroesi. Mae ei "Strategematicon libri iii" yn gasgliad o esiamplau o strategaeth filwrol o hanes Groeg a Rhufain, at ddefnydd swyddogion y fyddin. Credir iddo hefyd ysgrifennu ar fesur tir.
Sextus Julius Frontinus Roedd Sextus Julius Frontinus neu Julius Frontinus (c. 40-103) yn gadfridog Rhufeinig ac awdur yn yr iaith Ladin. Fel llywodraethwr Prydain bu'n gyfrifol am orchfygu llwyth y Silwriaid yn ne-ddwyrain Cymru.
Lucius Tarquinius Superbus Ystyrid ei deyrnasiad yn ormesol, a daeth ei fab, Sextus, yn fwy amhoblogaidd fyth. Dechreuodd y digwyddiadau a arweiniodd at ddiwedd y frenhiniaeth pan reibiodd Sextus Lucretia, gwraig Collatinus. Dywedodd Lucretia wrth ei gŵr beth oedd wedi digwydd, yna lladdodd ei hun. Ymunodd Collatinus ag eraill, yn arbennig Lucius Junius Brutus, i yrru Lucius a Sextus o Rufain, a sefydlu Gweriniaeth Rhufain.
Heliogabalus Sextus Varius Avitus Basianus, mwy adnabyddus fel Heliogabalus (c. 204 – 222) oedd ymerawdwr Rhufain o 218 hyd 222.
Legio VI Victrix Ymladdodd y lleng yn Perugia yn 41 CC, yna yn erbyn Sextus Pompeius yn Sicilia. Yn 31 CC ymladdodd ym Mrwydr Actium yn erbyn Marcus Antonius. Y flwyddyn ddilynol roedd yn Hispania Tarraconensis, lle bu'n ymladd yn erbyn y Cantabriaid.
Legio III Augusta Mae'n debyg i'r lleng ymladd dros Augustus a Marcus Antonius ym Mrwydr Philippi yn 42 CC, pan orchfygwyd llofruddion Iŵl Cesar. Yn dilyn y frwydr yma, buont yn ymladd yn Sicilia yn erbyn Sextus Pompeius.
Legio I Germanica Rhwng 38 a 36 CC, ymladdodd dros Augustus dan Marcus Agrippa yn erbyn Sextus Pompeius yn Sicilia. Mae'n debyg iddi hefyd ymladd dan Agrippa yn erbyn y Cantabriaid yn Hispania Tarraconensis.
Lucius Junius Brutus Roedd yn fab i Tarquinia, chwaer y brenin Lucius Tarquinius Superbus. Ffugiodd dwpdra i osgoi perygl yn ystod teyrnasiad gormesol Tarquinius, a thrwy hynny cafodd yr enw "Brutus". Dechreuodd y digwyddiadau a arweiniodd at ddiwedd y frenhiniaeth yn Rhufain pan reibiodd mab y brenin, Sextus, wraig o'r enw Lucretia, gwraig Collatinus. Dywedodd Lucretia wrth ei gŵr beth oedd wedi digwydd, yna lladdodd ei hun. Ymunodd Collatinus a Lucius Junius Brutus i yrru Tarquinius a Sextus o Rufain, a sefydlu Gweriniaeth Rhufain. Daeth Brutus a Collatinus yn ddau gonswl cyntaf Rhufain.
Heliogabalus Ganed Heliogabalus yn Emesa, Syria, yn fab i Sextus Varius Marcellus a Julia Soaemias Bassiana. Yr oedd yn aelod trwy ei fodryb Avita Mamaea o deulu'r Severaid, a sefydlwyd gan yr ymerawdwr Septimius Severus. Yr oedd ei hynafiaid wedi bod yn offeiriaid y duw El-Gabal yn Emesa (Homs) heddiw). O hyn y daeth yr enw Heliogabalus.