Top 10 similar words or synonyms for wyndodeg

bowyseg    0.738458

goideleg    0.715324

tsang    0.695682

oideleg    0.692265

wmbreg    0.666827

ahaggar    0.666817

tochareg    0.653116

mefenydd    0.650977

thafodiaith    0.650582

lapdir    0.649035

Top 30 analogous words or synonyms for wyndodeg

Article Example
Gwyndodeg Clywir y Wyndodeg heddiw yn siroedd Môn, Gwynedd, a gorllewin Conwy. I'r dwyrain mae'r Wyndodeg yn troi'n Bowyseg yn ardal Clwyd. Ceir sawl tafodiaith leol o fewn y Wyndodeg yn ogystal - is-dafodieithoedd fel petai - a gellid sôn am Wyndodeg Môn, Gwyndodeg Arfon, Gwyndodeg Llŷn ac Eifionydd, a Gwyndodeg Meirionnydd. Un yr un modd ag y mae'r brif dafodiaith, y Wyndodeg, yn perthyn i diriogaeth hen deyrnas Gwynedd y mae'n diddorol nodi bod yr is-dafodieithoedd hyn (a nodweddir gan wahaniaethu geirfa ac acen yn bennaf) yn perthyn yn fras i'r hen gantrefi a chymydau: mae seiliau hanesyddol yr iaith Gymraeg yn hen iawn.
Gwyndodeg Un o'r cyfraniadau pwysicaf i astudiaethau ar y Wyndodeg yw cyfrol arbennig yr ieithgi Osbert Henry Fynes-Clinton, "The Welsh Vocabulary of the Bangor District", sy'n cyflwyno geirfa helaeth a gasglwyd o lafar gwlad yn bennaf yn yr ardal o gwmpas Bangor, Gwynedd. Er ei fod yn astudiaeth o dafodiaith gogledd-ddwyrain yr hen Sir Gaernarfon mae nifer o elfennau yn y dafodiaith honno i'w gweld yng ngweddill tiriogaeth y Wyndodeg hefyd.
Cymraeg y gogledd Rhennir Cymraeg y Gogledd yn ddwy brif dafodiaith, sef Gwyndodeg a Phowyseg. Mae gan y ddwy dafodiaith hyn eu hymraniadau hwythau yn ogystal. Sylwer hefyd mai dosbarthiad cyffredinol yw hyn. Mewn rhai pethau mae'r Bowyseg a'r Ddyfedeg yn fwy agos i'w gilydd nag y maen nhw i'r Wyndodeg ar y naill law a'r Wenhwyseg ar y llall; yn wir mai'r Wyndodeg a'r Wenhwyseg yn rhannu sawl nodwedd â'i gilydd, e.e. "petha" am y gair 'pethau' (ond "pethe" yn y Bowyseg a'r Ddyfedeg).
Gwyndodeg Gwyndodeg yw tafodiaith Gymraeg gogledd-orllewin Cymru. Fe'i gelwir yn Wyndodeg am fod ei thiriogaeth yn gyfateb yn fras i diriogaeth yr Wynedd hanesyddol. Daw'r gair o'r enw "Gwyndyd" ('Gwynedd'; 'pobl Gwynedd'), hen ffurf ar y gair Gwynedd, sy'n dod o'r gair Brythoneg (tybiedig) "Uenedoti" (sail y gair Lladin Canol "Venedotia", Gwynedd).
Osbert Fynes-Clinton Ei brif waith yw geiriadur tafodiaith Bangor a'r cylch "The Welsh vocabulary of the Bangor district" a gyhoeddwyd yn 1913. Roedd wedi'i seilio ar waith maes ar y dafodiaith honno, sy'n perthyn i'r Wyndodeg, a gyflawnwyd rhwng 1904 a 1912. Defnyddiodd Fynes-Clinton siaradwyr y dafodiaith leol a anwyd rhwng 1835 a 1859 o Fangor, Pentir, Aber a Llanfairfechan. Mae'r gwaith yn eithriadol ymysg tafodieitheg y cyfnod am ei drylwyredd a'i gywirdeb gwyddonol.