Top 10 similar words or synonyms for varis

caerwrygion    0.807652

dolavon    0.803695

llantilio    0.803368

ystradenni    0.797797

alekseevna    0.796082

salop    0.793701

gwempa    0.790733

penpergwm    0.790344

llanllawddog    0.789221

ucheldre    0.788023

Top 30 analogous words or synonyms for varis

Article Example
Varis Ond hyd yn hyn ni lwyddwyd i ddarganfod olion o'r gaer. Cafwyd darnau o grochenwaith a theiliau Rhufeinig ger yr A541 a chredir erbyn hyn fod y gaer yn aros i'w darganfod ger Bryn Polyn, ar gefnen isel rhwng afon Clwyd ac afon Elwy.
Varis Caer Rufeinig yng ngogledd-ddwyrain Cymru oedd Varis (Lladin). Mae ei union safle yn ddirgelwch. Yn y gorffennol, credai rhai archaeolegwyr a hynafiaethwyr fod tref Caerwys yn sefyll ar safle Varis, ond erbyn heddiw credir mai yn Llanelwy neu'r cyffiniau oedd y safle.
Varis Cyfeirir at Varis yn yr "Itinerarium Antoninus" am dalaith Prydain (adran XI). Gorweddai ar ffordd Rufeinig Caer-Segontiwm rhywle rhwng Deva (Caer) a Canovium (Caerhun) yn Nyffryn Conwy. Byddai disgwyl i'r gaer orwedd tua hanner ffordd rhwng y ddwy gaer honno, ger arfordir gogledd-ddwyrain Cymru, o fewn taith diwrnod ar draed iddynt.
Varis Mae Llanelwy yn cynnig ei hun fel safle i'r gaer am sawl rheswm. Yn un peth mae'n gorwedd ar y brif ffordd Rufeinig ger rhyd strategol ar afon Clwyd. Gwyddys fod tref Rufeinig fechan yno a bod Prestatyn yn harbwr pwysig (roedd lefel y môr yn uwch) i allforio plwm o'r mwynfeydd Rhufeinig ym mhen gogleddol Bryniau Clwyd. Yn ogystal, damcaniaethir y bu ffordd Rufeinig arall yn rhedeg ar hyd Dyffryn Clwyd, gyda chaer fechan yn Rhuthun efallai, i gysylltu â'r ffordd Rufeinig o Deva (Caer) i Gaer Gai (ger Llyn Tegid) yng Nghorwen. Naturiol felly fyddai codi caer ar safle Llanelwy.
Llanelwy Credir y lleolwyd caer Rufeinig Varis yn Llanelwy, ond hyd yn hyn mae ei lleoliad yn ansicr. Gorweddai ar Fryn Polyn efallai, ger y dref. Gwyddys fod tref Rufeinig fechan yn Llanelwy, ar diriogaeth y Deceangli.
Caerau Rhufeinig Cymru Yn y gogledd ceir Caer Gybi ac Aberffraw ar Ynys Môn, Caerhun (Dyffryn Conwy), Bryn-y-Gefeiliau (neu Caer Llugwy, ger Capel Curig), Pen Llystyn (ger Bryncir), Tomen-y-mur, Caer Gai, Y Bala a Pennal ym Meirionnydd. Mae lleoliad Varis yn ansicr, ond credir iddi gael ei chodi ger Llanelwy.
Moelfre Isaf Llifa Afon Elwy heibio wrth droed y bryn i'r de. Ar odrau gogleddol y bryn mae'r B5381 yn dilyn cwrs yr hen ffordd Rufeinig a gysylltai "Varis" a "Deva" i'r dwyrain â chaer "Canovium" (Caerhun) i'r gorllewin. Rhwng y B5381 ac ysgwydd Moelfre Isaf mae rhes o beilonau trydan yn trosglwyddo trydan o Atomfa'r Wylfa i ddinasoedd gogledd-orllewin Lloegr.
Caerwys Credai rhai archaeolegwyr a hynafiaethwyr fod y dref yn sefyll ar safle hen gaer Rufeinig Varis, ond erbyn heddiw credir mai ger Llanelwy oedd y safle. Mae enw'r dref yn golygu "caer y gwysiau", ac efallai'n deillio o'r ffaith fod llys yn cael ei chynnal yno hyd y 16g.
Ffordd Rufeinig Caer-Segontiwm O "Deva" mae'r ffordd yn rhedeg ar gwrs gogledd-orllewinol i gyffiniau Dinas Basing, ar Lannau Dyfrdwy, ar ôl croesi Afon Dyfrdwy ei hun ger y bont bresennol tu allan i Gaer. Cafwyd hyd i olion Rhufeinig ger y ffordd yn Mhentre (Sir Fflint). O Ddinas Basing try i'r gorllewin ac mae'n parhau felly hyd Segontiwm. Ger Llanelwy mae'n croesi Afon Elwy ac Afon Clwyd ar ôl bylchu Bryniau Clwyd ger Rhuallt (mae'r A55 yn dilyn yr un cwrs yn union). Credir y lleolwyd caer Rufeinig Varis yn Llanelwy, ond hyd yn hyn mae ei lleoliad yn ansicr.