Top 10 similar words or synonyms for uttar

pradesh    0.951563

madhya    0.939920

gujarat    0.932495

himachal    0.915628

maharashtra    0.907223

andhra    0.895930

arunachal    0.893128

haryana    0.887939

jammu    0.881259

uttarakhand    0.881136

Top 30 analogous words or synonyms for uttar

Article Example
Uttar Pradesh Hindi yw iaith swyddogol y dalaith. Mae 81% o'r boblogaeth yn ddilynwyr Hindŵaeth a tua 18% yn ddilynwyr Islam. Mae Varanasi (Benares) yn ddinas sanctaidd i Hindwaid, ac mae miloedd lawer yn mynd yno fel pererinion. Rhyw 13 km o Varanasi mae Sarnath, sy'n fan sanctaidd i ddilynwyr Bwdhaeth am mai yma y traddododd Gautama Buddha ei bregeth gyntaf. Mae nifer o atyniadau byd-enwog yn y dalaith, yn enwedig y Taj Mahal yn Agra a dinas adfeiliedig Fatehpur Sikri.
Uttar Pradesh Roedd wyth allan o 14 Prif Weinidog India yn hannu o Uttar Pradesh, sef Jawaharlal Nehru, Lal Bahadur Shastri, Indira Gandhi, Rajiv Gandhi, Choudhary Charan Singh, Vishwanath Pratap Singh, Chandra Shekhar ac Atal Behari Vajpayee.
Uttar Pradesh Mae Uttar Pradesh (Hindi: उत्तर प्रदेश "Talaith Ogleddol"), a elwir yn aml yn U.P., yw'r dalaith fwyaf yn India o ran poblogaeth a'r bumed fwyaf o ran arwynebedd. Roedd y boblogaeth yn 166,052,859 yn 2001, mwy na phoblogaeth Ffrainc, Yr Almaen a'r Iseldiroedd gyda'i gilydd. Dim ond pump gwlad, sef China, India ei hun, yr Unol Daleithiau, Indonesia a Brasil, sydd a phoblogaeth fwy. Mae wyth dinas yn y dalaith gyda phoblogaeth o filiwn neu fwy.
Uttar Pradesh Mae tiriogaeth Uttar Pradesh yn rhan helaeth o wastadtir Afon Ganga, ac yn dir ffrwythlon iawn. Mae'n ffinio â Nepal ac a thaleithiau Uttarakhand, Himachal Pradesh, Haryana, Delhi, Rajasthan, Madhya Pradesh, Chhattisgarh, Jharkhand a Bihar. Prifddinas y dalaith yw Lucknow, ond Kanpur yw'r ddinas fwyaf a'r ganolfan ddiwydiannol bwysicaf. Dinasoedd pwysig eraill yw Allahabad, Agra, Varanasi (Banaras), Meerut, a Gorakhpur. Yn 2000 ffurfiwyd talaith newydd, Uttarakhand, o ran ogleddol Uttar Pradesh.
Varanasi Dinas yn nhalaith Uttar Pradesh yn India yw Vārānasī, gynt Benares, Banaras neu Benaras. Ystyrir y ddinas yn ddinas sanctaidd gan ddilynwyr crefydd Hindŵaeth.