Top 10 similar words or synonyms for terfysgaeth

rhyfela    0.817529

comiwnyddiaeth    0.772158

mudiadau    0.742979

gwrthdaro    0.736683

palesteinaidd    0.734204

hiliaeth    0.730026

gwladwriaethau    0.726606

islamaidd    0.710336

laddiad    0.708739

galwedigaethau    0.704069

Top 30 analogous words or synonyms for terfysgaeth

Article Example
Terfysgaeth Ymgeisir diffiniadau i wahaniaethu rhwng terfysgaeth a mathau eraill o drais gwleidyddol, megis rhyfela herwfilwrol (gerila), terfysg, bradlofruddiaeth, a difrod bwriadol, a thrais troseddol a rhyfel yn gyffredinol. Dadleua Robert Keohane taw prif ffactor nodweddiadol terfysgaeth, sy’n ei gwahaniaethu o ffurfiau eraill o drais, yw ei hamcan o "ddychrynu cynulleidfa yn hytrach na ddinistrio gelyn". Pwysleisiodd Brian Michael Jenkins taw tynnu sylw nifer o bobl yw amcan terfysgwyr yn bennaf, nid niwedio nifer o bobl.
Terfysgaeth Nid yw diffiniad cynhwysfawr o derfysgaeth yn bodoli. Mae un ddiffiniad cryno yn haeru taw "trosedd â chymhelliad gwleidyddol gyda'r nod o newid ymddygiad y gynulleidfa a dargedir" yw terfysgaeth. Yn ei waith "Terrorism and the Liberal State" (1986), crybwyllodd Paul Wilkinson nifer o ffactorau wrth geisio ddiffinio terfysgaeth wleidyddol: y defnydd o fraw i orfodi rhywun i wneud rhywbeth, a'r defnydd o lofruddiaeth a dinistr, neu'r bygythiad o hynny, i orfodi unigolion neu grwpiau i ufuddhau i orchmynion y terfysgwr. Mae terfysgaeth felly yn fodd o ryfela seicolegol sydd yn defnyddio bygythiad fel ei phrif arf.
Terfysgaeth Label wleidyddol yw terfysgaeth sydd bron byth yn cael ei mabwysiadu'n wirfoddol gan unigolyn neu garfan i ddiffinio'u hunain. Bron wastad y mae gan y term "terfysgw(y)r" ddelwedd negyddol, ac felly defnyddir termau megis "gwrthryfelwyr", "chwyldroadwyr", "aelodau milisia", neu "gerilas", sydd weithiau â chynodiadau positif gennynt, gan unigolion a grwpiau i ddisgrifio'u hunain.
Terfysgaeth Wrth gymharu rhyfela herwfilwrol a therfysgaeth, y gwahaniaeth pennaf yw sut mae'r ddwy strategaeth yn gweld eu targedau: i gerilas, lluoedd gwladwriaethol yw'r prif darged, a thrwy hyn caiff sifiliaid eu niweidio ar ddamwain neu fel sgîl-effaith; i derfysgwyr, sifiliaid yw'r prif darged ac osgoir ymosod ar wrthwynebwyr arfog. Yn ogystal, ffenomen wledig yw rhyfela herwfilwrol yn gyffredinol tra bo terfysgaeth gan amlaf yn digwydd mewn ardaloedd trefol. Yn achos terfysgaeth wladwriaethol, ymgeisir gwahaniaethu rhyngddi a ffurfiau eraill o drais wladwriaethol, megis hil-laddiad.
Terfysgaeth Strategaeth a ddefnyddir yn aml er pwrpasau ideolegol yw terfysgaeth, ac nid ideoleg ynddi'i hunan. Ymgeisia rhai i lunio deipoleg o "weithredoedd terfysgol" yn seiliedig ar dactegau nodweddiadol terfysgwyr yn hytrach na diffiniad o derfysgaeth, ond mae gan hyn hefyd ei broblemau ei hunan. Er enghraifft, gellir gwahaniaethu rhwng tactegau milwrol confensiynol a thactegau terfysgol megis bradlofruddio a herwgipio, ond mae'r rhain yn weithredoedd troseddol cyffredinol yn ogystal ac nid yn unigryw i derfysgaeth. Mae'n debyg nid oes math arbennig o weithgarwch sy'n unigol i derfysgaeth.