Top 10 similar words or synonyms for seleucus

antiochus    0.930073

antigonus    0.929853

satrap    0.928951

demetrius    0.925116

cassander    0.923639

mithridates    0.922122

ptolemi    0.920709

macedon    0.905086

parthia    0.900960

lysimachus    0.899951

Top 30 analogous words or synonyms for seleucus

Article Example
Seleucus I Nicator Roedd Seleucus yn fab i Antiochus o Orestis a Laodice. Yn 333 CC, aeth gydag Alecsander ar ei ymgyrch i Asia, a'r flwyddyn wedyn priododd Apama. Wedi marwolaeth Alecsander yn 323 CC, rhoddwyd swydd "chiliarch" i Seleucus yn Rhaniad Babilon, yn cydweithio a'r rhaglaw Perdiccas. Yn ddiweddarach, roedd Seleucus yn rhan o'r cynllwyn i lofruddio Perdiccas wedi i'r ymosodiad ar yr Aifft fethu.
Seleucus I Nicator Cyhoeddodd ei hun yn frenin (basileus) yn 305 CC, a sefydlodd Seleucia ar y Tigris fel ei brifddinas. Wedi marwolaeth Apama, priododd Stratonice, merch Demetrius Poliorcetes yn 300 CC. Gallodd ymestyn ei ymerodraeth tua'r gorllewin hefyd, ac erbyn 281 CC roedd yn feistr ar y rhan fwyaf o hen ymerodraeth Alecsander. Yn y flwyddyn honno, croesodd i'r Chersonese gyda'r bwriad o feddiannu Thrace a Macedonia ei hun, ond llofruddiwyd ef gan Ptolemi Keraunos ger Lysimachia. Olynwyd ef gan ei fab, Antiochus I Soter.
Seleucus I Nicator Dan Gytundeb Triparadisus yn 321 CC, rhoddwyd Babilon i Seleucus. Gorfodwyd ef i ffoi yn 316 CC, pan wnaeth Antigonus ei hun yn feistr ar y dwyrain. Aeth Seleucus i'r Aifft, lle bu'n cydweithredu a Ptolemi. Wedi buddugoliaeth Ptolemi ym Mrwydr Gaza yn 312 CC, gallodd ddychwelyd i Babilon, ac ystyrir y flwyddyn yma fel blwyddyn sefydlu'r Ymerodraeth Seleucaidd. Llwyddodd i ymestyn ei awdurdod dros ran helaeth o'r dwyrain, cyn belled ag Afon Jaxartes ac Afon Indus yn India. Bu'n ymladd a Chandragupta yn yr ardal yma, ond gwnaed cytundeb heddwch rhyngddynt.
Seleucus I Nicator Cadfridog Macedonaidd dan Alecsander Fawr, a sylfaenydd yr Ymerodraeth Seleucaidd wedi marwolaeth Alecsander oedd Seleucus I Nicator, Groeg: Σέλευκος Νικάτωρ, "Seleucus y Buddugol" (c. 358 CC - 281 CC).
Antigonos I Monophthalmos Gorchfygwyd Antigonos a Demetrius gan fyddinoedd unedig Seleucus a Lysimachus ym Mrwydr Ipsus yn 301 CC. Lladdwyd Antigonos, oedd yn 80 oed, yn y frwydr, a rhannwyd ei deyrnas rhwng Lysimachus a Seleucus. Llwyddodd Demetrius i'w wneud ei hun yn frenin Macedonia yn ddiweddarach.
Antiochus III Mawr Bu farw y flwyydyn ddilynol ar ymgyrch arall i'r dwyrain, tra'n ceisio ysbeilio teml yn Elymaïs, Persia. Dilynwyd ef gan ei fab, Seleucus IV Philopator.
Perdiccas Gan adael Eumenes i ymgyrchu yn Asia Leiaf, aeth Perdiccas i ymosod ar Ptolemi yn yr Aifft. Cyrhaeddodd Pelusium, ond methodd a chroesi Afon Nîl. Gwrthryfelodd ei fyddin, a llofruddiwyd ef gan ei swyddogion, Peithon, Antigenes a Seleucus.
Alecsander Fawr Ymhlith y mwyaf llwyddiannus o'r cadfridogion fu'n ymladd am ran o'i deyrnas gellir enwi Ptolemi a ddaeth i rym yn yr Aifft a Seleucus a enillodd ran helaeth o Asia.
Ymerodraeth Seleucaidd Sefydlwyd y deyrnas gan un o gadfridogion Alecsander, Seleucus I Nicator, Groeg: Σέλευκος Νικάτωρ ("Nicator," "y Buddugol"). Wedi marwolaeth Alecsander daeth i reoli ardal eang oedd yn ymestyn hyd at Afon Indus. Tua 305 CC sefydlodd Seleucia ar y Tigris fel prifddinas newydd. Yn ddiweddarach, symudwyd y brifddinas i Antiochia.
Groegiaid Antiochiaidd Mae gan y gymuned dreftadaeth hir sy'n dyddio'n ôl i sefydlu Antioch yn 323 CC gan Seleucus I Nicator ar adeg concwest Alecsander Fawr o'r Aramaeaniaid hyn a oedd yn siarad Syrieg ac yn dathlu'r litwrgi yn Hen Aramaeg Syriaidd. Gyda dyfodiad Arabeg yn y Lefant, erbyn heddiw mae'r mwyafrif wedi dod yn gymuned Gristnogol sy'n siarad Arabeg, gan siarad Arabeg Lefantaidd yn bennaf, er bod llawer hefyd yn siarad Groeg a Twrceg.