Top 10 similar words or synonyms for pyrrhus

epirus    0.898466

lysimachus    0.898163

numidia    0.890742

cassander    0.889263

parthia    0.887716

antigonus    0.887441

pontus    0.881463

antipater    0.880767

macedon    0.879586

poliorcetes    0.872307

Top 30 analogous words or synonyms for pyrrhus

Article Example
Pyrrhus, brenin Epiros Brenin Epiros, ac am gyfnod brenin Macedonia, oedd Pyrrhus, Groeg: Πύρρος (318 CC-272 CC).
Pyrrhus, brenin Epiros Yn 278 CC, aeth a'i fyddin i ynys Sicilia, lle bu'n ymladd yn erbyn y Carthaginiaid. Cipiodd gaer Eryx oddi wrthynt yn 277 CC. Erbyn iddo ddychwelyd o Sicilia i'r Eidal, roedd y Rhufeiniad wedi codi byddin fawr, a phenderfynodd Pyrrhus ddychwelyd i Epiros.
Pyrrhus, brenin Epiros Yn 272 CC, ymosododd ar Sparta i geisio rhoi Cleonymus ar yr orsedd. Wrth ymosod ar Argos, lladdwyd ef pan daflodd hen wraig deilsen ato, gan ei daro'n anymwybodol a rhoi cyfle i un o filwyr Argos ei ladd. Dilynwyd ef ar orsedd Epiros gan ei fab, Alexander II.
Pyrrhus, brenin Epiros Rhoddodd ei enw i'r ymadrodd "buddugoliaeth Byrrhig"; buddugoliaeth lle mae'r colledion mor uchel nes ei gwneud yn ddiwerth. Pan longyfarchwyd ef ar ei fuddugoliaeth ym Mrwydr Asculum, dywedir iddo ateb "Byddai un fuddugoliaeth arall debyg yn fy nifetha" (Groeg: Ἂν ἔτι μίαν μάχην νικήσωμεν, ἀπολώλαμεν.)
Pyrrhus, brenin Epiros Roedd yn fab i Aeacides, brenin Epirus, o lwyth Groegaidd y Molossiaid. Diorseddwyd ei dad pan oedd Pyrrhus yn ddwy oed. Priododd Pyrrhus ag Antigone, llysferch Ptolemi I Soter, brenin yr Aifft, a chafodd gymorth Ptolemi i adennill gorsedd Epiros.
Pyrrhus, brenin Epiros Yn 281 CC, roedd dinas Roegaidd Tarentum yn ne yr Eidal yn wynebu ymosodiad gan fyddin Gweriniaeth Rhufain, ac apeliasant ar Pyrrhus am gymorth. Cytunodd Pyrrhus, a daeth a byddin i'r Eidal. Gorchfygodd y Rhufeiniaid ym Mrwydr Heraclea yn 280 CC, ac eto ym Mrwydr Asculum yn 279 CC, ond er iddo fod yn fuddugol, dioddefodd ei fyddin golledion difrifol.
Hiero II, brenin Siracusa Roedd Hieron yn gadfridog ym myddin Pyrrhus o Epirus. Pan adawodd Pyrrhus ynys Sisili yn 275 CC, apwyntiodd trigolion Siracusa Hieron yn gadfridog.
Dodona Y prif olion sydd i'w gweld yno heddiw yw'r Theatr (mewn lliw oren ar y map), a godwyd yn amser Pyrrhus (297 CC-272 CC), yr acropolis (lliw brown), Teml Aphrodite (rhif 10 ar y map) a safle'r oracl ei hun, Temenos Zeus Naios (rhif 11 ar y map). Mae yno hefyd basilica cynnar (rhif 16).
Epiros Yn y cyfnod clasurol, roedd pobl Epiros yn byw mewn pentrefi, yn hyrach nag mewn dinas-wladwriaethau. Er y credir eu bod yn siarad Groeg, dirmygid yr Epiriaid gan y Groegwyr eraill. Er hynny, roedd i Epirus bwysigwydd, oherwydd mai yno yr oedd oracl enwog Dodona. Ffurfiwyd Teyrnas Epiros; ei brenin enwocaf oedd Pyrrhus, a ddaeth i'r orsedd yn 295 CC, ac a fu'n brwydro yn erbyn Gweriniaeth Rhufain am chwe blynedd.