Top 10 similar words or synonyms for poliorcetes

demetrius    0.943224

antigonus    0.911070

satrap    0.900518

eumenes    0.888966

cassander    0.885505

lysimachus    0.884573

judea    0.883827

seleucus    0.881746

soter    0.879299

antiochus    0.873151

Top 30 analogous words or synonyms for poliorcetes

Article Example
Demetrius Poliorcetes Cadfridog Macedonaidd a ddaeth yn frenin Macedonia oedd Demetrius Poliorcetes (337-283 CC, Groeg: "Δημήτριος Πολιορκητής"). Roedd yn fab i Antigonos I Monophthalmos, un o'r "Diadochi", olynwyr Alecsander Fawr.
Demetrius Poliorcetes Ym Mrwydr Ipsus yn 301 CC, gorchfygwyd byddin Antigonos a Demetrius gan fyddin Lysimachus a Seleucus I Nicator, oedd wedi gwneud cynghrair yn eu herbyn, a lladdwyd Antigonus yn y frwydr. Bu raid i Demetrius ffoi, ond yn 297 CC, cafodd Alexander V, brenin Macedonia ei ddiorseddu gan ei frawd Antipater II. Troes Alexander at Demetrius Poliorcetes am gymorth, ond gwnaeth Demetrius ei hun yn frenin Macedonia, a llofruddiodd Alexander V.
Demetrius Poliorcetes Yn 305 CC, bu Demetrius yn gwarchae ar ddinas Rhodos, oedd wedi gwrthod cynorthwyo Antigonos yn erbyn Ptolemi I Soter. Enillodd Demetrius yr enw "Poliorcetes" ("y gwarchaewr dinasoedd") am ei ymdrechion, oedd yn cynnwys adeiladu tŵr gwarchae 40 medr o daldra ac 20 medr o led, a elwid yn "Helepolis" ("Y cipiwr dinasoedd"), ond er gwarchae ar y ddinas am flwyddyn, ni allodd ei chipio.
Demetrius Poliorcetes Yn 307 CC, arweiniodd fyddin tuag Athen, a gorfodi Demetrius Phalereus, unben Athen, i ffoi i Alexandria. Ail-sefydlodd Demetrius hen gyfansoddiad Athen, a barodd i'r dinasyddion ei gyfarch ef a'i dad fel "theoi soteres", "gwaredwyr dwyfol". Yn 306 CC, gorchfygodd Menelaus, brawd Ptolemi I Soter, brenin yr Aifft, ym Mrwydr Salamis ger arfordir Cyprus, gan adael ei dad, Antigonos, yn feistr ar ran ddwyreinol y Môr Canoldir a'r Dwyrain Canol heblaw Babylonia. Cyhoeddodd Antigonos ei hun yn frenin Asia Leiaf a gogledd Syria, ac enwodd Demetrius yn gyd-frenin.
Seleucus I Nicator Cyhoeddodd ei hun yn frenin (basileus) yn 305 CC, a sefydlodd Seleucia ar y Tigris fel ei brifddinas. Wedi marwolaeth Apama, priododd Stratonice, merch Demetrius Poliorcetes yn 300 CC. Gallodd ymestyn ei ymerodraeth tua'r gorllewin hefyd, ac erbyn 281 CC roedd yn feistr ar y rhan fwyaf o hen ymerodraeth Alecsander. Yn y flwyddyn honno, croesodd i'r Chersonese gyda'r bwriad o feddiannu Thrace a Macedonia ei hun, ond llofruddiwyd ef gan Ptolemi Keraunos ger Lysimachia. Olynwyd ef gan ei fab, Antiochus I Soter.