Top 10 similar words or synonyms for parthia

macedon    0.915991

antigonus    0.905382

mithridates    0.903494

seleucus    0.900960

pontus    0.898272

epirus    0.895295

lysimachus    0.894265

satrap    0.889790

pyrrhus    0.887716

demetrius    0.884821

Top 30 analogous words or synonyms for parthia

Article Example
Parthia Yr oedd y Parthiaid (hen Berseg "Partawa", Lladin "Parthi") yn bobl a sefydlodd ymerodraeth yn y wlad sydd nawr yn Iran o'r drydedd ganrif CC hyd yr 2g OC.
Parthia Rhwng 250 CC a 238 CC, dan eu brenin Arsaces, llwyddodd y Parthiaid i gipio tiriogaeth Persia oddi wrth yr ymerodron Seleucid. Yn 141 CC, pan oedd Mithridates I yn frenin, ychwanegasant Fesopotamia at eu hymerodraeth. Cymerodd y brenin y teitl "Sháh an Sháh" (Brenin y Brenhinoedd). Dan Mithridates II (124/123 - 88/87 CC) agorwyd Llwybr y Sidan yn 115 CC a derbyniwyd llysgenhadaeth gan ymerawdwr Tsieina, Wu Ti.
Parthia Yn ystod y ganrif gyntaf a'r ail OC, gwanychwyd ymerodraeth y Parthiaid gan ryfeloedd cartref. Yn 200 cododd y Persiaid mewn gwrthryfel dan Ardashir I, ac yn 224 lladdwyd Artaban V, brenin olaf y Parthiaid. Coronwyd Ardashir yn frenin, a sefydlwyd tŷ brenhinol y Sassanid.
Parthia Yn fuan wedyn daeth y Parthiaid i gysylltiad a'r Ymerodraeth Rufeinig. Bu llawer o ymladd rhwng yr ymerodraethau hyn dros y blynyddoedd. Ym mrwydr Carrhae yn 53 CC cafodd y Parthiaid fuddugoliaeth ysgubol dros fyddin Rufeinig dan Marcus Licinius Crassus, gan ladd 20,000 o filwyr Rhufeinig a chymeryd 10,000 yn gaethion. Yn 20 CC, dan Augustus, cytunwyd i dderbyn Afon Ewffrates fel ffin. Bu ymladd eto yn ystod teyrnasiad Nero ac enillodd yr ymerawdwr Trajan fuddugoliaethau pwysig dros y Parthiaid, gan gipio'r brifddinas Ctesiphon yn 116, a chymeryd y cyfenw "Parthicus" i'w nodi. Bu heddwch yn ystod teyrnasiad Hadrian ond yna bu ymladd eto dan Marcus Aurelius pan adenillodd y Parthiaid y tiroedd a gollasant i Trajan. Prif gryfder y Parthiaid mewn rhyfel oedd eu marchogion, oedd yn gallu saethu â'r bwa tra'n carlamu.
Mithridates I, brenin Parthia Ymledodd ffiniau Parthia i'r dwyrain hefyd, i Margiana, Aria a Bactria yng Nghanolbarth Asia, gan sefydlu rheolaeth Parthia ar Lwybr y Sidan. Galwai Mithridates ei hun yn "philhellene" (cyfaill y Groegiaid) a defnyddiai arian bath yn dilyn patrymau Groegaidd.
Mithridates I, brenin Parthia Brenin Parthia oedd Mithridates I neu Mithridates (195 CC - 138 CC), a deyrnasai fel "Brenin Mawr" y wlad o tua 171 CC hyd 138 CC, gan ddilyn ei frawd Phraates I o Parthia (176 CC - 171 CC). Roedd yn fab i'r brenin Phriapatius o Parthia (191 CC - 176 CC). Dan Mithridates tyfodd Parthia yn rym gwleidyddol mawr a lledaenwyd i'r gorllewin i gynnwys Mesopotamia. Cipiwyd Babylonia (144 CC), Media (141 BC) ac yna Persia (139 BC), pan ddaliodd Mithridates y brenin Seleucid Demetrius II o Syria (146-139 CC a 129-126 CC). Yn ddiweddarach priododd Demetrius II Rhodogune ferch Mithridates.
Mithridates I, brenin Parthia Mae ei enw yn dynodi ei fod dan amddiffyn a nawdd y duw Mithra ac yn rhoi iddo ei awdurdod i ryw raddau. Fe'i olynwyd ar ei farwolaeth gan ei fab Phraates (teyrnasodd 138 CC - 128 CC).
Osroene Daeth yn rhan o ymerodraeth Alecsander Fawr. Ar ôl cwymp Ymerodraeth y Seleuciaid, cafodd ei rhannu rhwng Rhufain a Parthia.
Antiochus III Mawr Pan etifeddodd Antiochus III yr ymerodraeth roedd wedi colli tiriogaethau Asia Leiaf, Bactria a Parthia, ac yn fuan wedi iddo ddod yn frenin gwrthryfelodd y Mediaid.
Tigranes Fawr Priododd Cleopatra o Pontus, merch Mithridates VI, brenin Pontus, a gwnaeth gynghrair a Pontus. Eu cytundeb oedd fod Mithridates yn ceisio concro tiriogaethau Rhufeinig yn y gorllewin tra’r oedd Tigranes yn ymestyn ei diriogaethau yn y dwyrain. Wedi marwolaeth Mithridates II, brenin Parthia yn 88 CC, manteisiodd Tigranes ar wendid Parthia i gipio’r tiriogaethau yn yn Atropatene oddi wrthynt. Croesodd Afon Euphrates i ymgyrchu yn Syria yn erbyn yr Ymerodraeth Seleucaidd.