Top 10 similar words or synonyms for mottola

dss    0.688889

bmg    0.687463

mgm    0.684061

sorry    0.674130

lantern    0.671902

geffen    0.671868

venture    0.670559

universal    0.668542

sire    0.667164

jyp    0.665635

Top 30 analogous words or synonyms for mottola

Article Example
Mariah Carey Actores a chantores Americanaidd ydy Mariah Carey (ganed 27 Mawrth 1970). Gwnaeth ei recordiad cyntaf ym 1990 o dan arweiniad rheolwr Columbia Records Tommy Mottola, a hi oedd yr artist cyntaf i gael ei phump sengl gyntaf i gyrraedd brîg y siart Billboard Hot 100 yn yr Unol Daleithiau. Ar ôl ei phriodas â Mottola ym 1993, cafodd gyfres o senglau llwyddiannus a gadarnhaodd safle Carey fel yr act a oedd yn gwerthu fwyaf i gwmni recordiau Columbia. Yn ôl cylchgrawn Billboard, Mariah Carey oedd artist mwyaf llwyddiannus yr Unol Daleithiau yn ystod y 1990au.
Michael Jackson Yn 2000, rhestrwyd Jackson yn llyfr y Guinness World Records am ei gefnogaeth i 39 elusen, mwy nag unrhyw ddiddanwr neu berfformiwr arall. Ar y pryd, roedd Jackson yn aros am y trwyddedi i'w albymau i gael eu dychwelyd iddo; byddai hyn yn ei alluogi i hyrwyddo'i hen ddeunydd fel y mynnai gan atal Sony rhag cael cyfran o'r elw. Disgwyliai Jackson i hyn ddigwydd ar ddechrau'r mileniwm newydd. Fodd bynnag, yn sgîl y mân brint a'r amryw gymalau yn ei gytundeb, mae'r dyddiad hwn yn parhau i fod flynyddoedd i ffwrdd. Dechreuodd Jackson ymchwiliad, a daeth i'r amlwg fod y cyfreithiwr a gynrychiolodd Jackson adeg y cytundeb hefyd yn cynrychioli Sony, gan greu gwrthdaro o ran buddiannau. Hefyd, am nifer o flynyddoedd roedd Sony wedi bod yn ceisio prynu holl gyfran Jackson yn eu menter catalog cerddorol. Pe bai gyrfa Jackson neu ei sefyllfa ariannol yn dirywio, byddai'n rhaid iddo werthu ei gatalog. O ganlyniad, roedd gan Sony fodd o elwa pe bai gyrfa Jackson yn methu. Llwyddodd Jackson i ddefnyddio'r wybodaeth hon er mwyn ei alluogi i ddiweddu ei gytundeb yn gynnar. Ychydig cyn rhyddhau "Invincible", hysbysodd Jackson bennaeth Sony Music Entertainment, Tommy Mottola, ei fod yn gadael Sony. O ganlyniad, canslwyd rhyddhau pob sengl, ffilmio fideos a hyrwyddo a oedd yn ymwneud â'r albwm Invincable. Ym mis Gorffennaf 2002, honodd Jackson fod Mottola yn "ddiafol" ac yn berson "hiliol" nad oedd yn rhoi cefnogaeth o artistiaid Affricanaidd-Americanaidd, ond yn hytrach yn eu defnyddio er mwyn ei les personol. Cyhuddodd Mottola o alw ei gyd-weithiwr Irv Gotti yn "fat nigger". Gwadodd Sony'r honiadau eu bod wedi methu hyrwyddo'r albwm "Invincible" gyda digon o egni, gan fynnu bod Jackson wedi gwrthod gwneud taith yn yr Unol Daleithiau.