Top 10 similar words or synonyms for medvedev

dmitry    0.755725

rigaud    0.743774

stravinsky    0.741227

fleck    0.740915

nella    0.738105

svetlana    0.736132

leonid    0.734137

fabienne    0.734042

deledda    0.730393

hahn    0.730358

Top 30 analogous words or synonyms for medvedev

Article Example
Dmitry Medvedev Gwleidydd Rwsaidd yw Dmitry Anatolyevich Medvedev (Rwsieg, Дмитрий Анатoльевич Медведев; ganed 14 Medi 1965 yn Leningrad) a fu'n Arlywydd Rwsia o 7 Mai, 2008 hyd 7 Mai 2012. Enillodd etholaeth arlywyddol Rwsia 2008, a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2008, gyda tua 70% o'r bleidlais.
Dmitry Medvedev Cafodd ei apwyntio yn Ddirpwy Brif Weinidog Llywodraeth Rwsia ar 14 Tachwedd, 2005. Yn gyn bennaeth staff i Vladimir Putin, roedd hefyd yn gadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr Gazprom, swydd y mae wedi dal (am yr ail dro) ers 2000. Ar 10 Rhagfyr, 2007, cafodd ei gefnogi yn answyddogol fel ymgeisydd am arlywyddiaeth Rwsia (etholiad 2008) gan Rwsia Unedig, y blaid wleidyddol fwyaf yn Rwsia, a chafodd ei enwebiad ei gefnogi yn swyddogol gan y blaid honno ar 17 Rhagfyr, 2007. Cefnogwyd ymgeisyddiaeth Medvedev gan yr arlywydd ar y pryd, yr Arlywydd Vladimir Putin, a phleidiau gwleidyddol eraill sy'n gefnogol iddo. Fel technocrat ac apwyntydd gwleidyddol, nid oedd Medvedev erioed wedi dal swydd wleidyddol etholedig cyn 2008. Mae'n cael ei weld gan rai fel "protégé" Putin, wedi ei baratoi ganddo ar gyfer y swydd: un o'i benderfyniadau cyntaf oedd cynnig swydd Prif Weinidog Rwsia i Putin.
Georgia Ar 8 Awst, 2008, rholiodd tanciau Rwsia i fewn i Dde Ossetia ac Abkhazia mewn Rhyfel De Ossetia gan ymosod o'r awyr ar fyddin Georgia. Ar 12 Awst cytunodd Arlywydd Rwsia, sef Dmitri Medvedev, ac Arlywydd Ffrainc, sef Nicolas Sarkozy, ar gynllun heddwch chwe phwynt. Cytunodd Arlywydd Georgia gyda'r chwe phwynt:
Vladimir Putin Gwleidydd Rwsaidd ac Arlywydd Ffederasiwn Rwsia o Fai 2000 hyd Fai 2008 yw Vladimir Vladimirovich Putin (Rwsieg "Влади́мир Влади́мирович Пу́тин") (ganed 7 Hydref 1952). Fe ddaeth yn arlywydd gweithredol ar 31 Rhagfyr 1999, yn olynydd i Boris Yeltsin, ac fe'i arwisgwyd yn arlywydd ar ôl etholiadau ar 7 Mai 2000. Yn 2004, fe'i ail-etholwyd am ail dymor a ddaeth i ben ar 2 Mawrth 2008; cafodd ei olynu gan Dmitry Medvedev. Yn ôl y cyfansoddiad presennol, ni allai gael ei ail-ethol drachefn. Serch hynny, datganodd y bydd yn sefyll dros sedd yn y Duma fel ymgeisydd cyntaf ar restr etholiadol plaid Rwsia Unedig ("Edinaya Rossiya"). Agorodd hynny y posibilrwydd iddo gymryd swydd Prif Weinidog Rwsia o dan yr arlywydd newydd: un o benderfyniadau cyntaf Medvedev oedd cynnig y swydd honno iddo.
Viktor Zubkov Mae rhai sylwebyddion gwleidyddol yn gweld dyrchafiad Zubkov fel arwydd bod yr arlywydd presennol Vladimir Putin yn ei hybu i'w olynu ef yn yr etholiadau arlywyddol sydd i'w cynnal yn 2008. Byddai hyn yn dilyn patrwm gyrfa Putin ei hun, a ddaeth yn brif weinidog ar 9 Awst 1999, rhyw bum mis cyn ymddiswyddiad Boris Yeltsin. Mae eraill yn eu tro yn gweld Zubkov fel prif weinidog technegol fydd yn sicrhau parhâd dylanwad Putin ar lywodraeth Rwsia, ac yn gweld Putin yn hyrwyddo cystadleuaeth rhwng nifer o olynwyr posib megis Sergey Ivanov a Dmitry Medvedev.