Top 10 similar words or synonyms for licinianus

calpurnius    0.946908

philometor    0.925189

asiaticus    0.917901

lepidus    0.916524

ducas    0.916290

auletes    0.910484

alexius    0.907035

servius    0.903088

martia    0.902177

ataulf    0.901663

Top 30 analogous words or synonyms for licinianus

Article Example
Galba Yr oedd Galba yn 71 oed ac yr oedd ei ddau fab wedi marw o'i flaen. Yr oedd felly yn bwysig ei fod yn dewis ei olynydd yn fuan. Yr oedd Marcus Salvius Otho wedi gobeithio cael ei ddewis ond yn y diwedd penderfynodd Galba enwi Lucius Calpurnius Piso Frugi Licinianus. Oherwydd hyn cynllwyniodd Otho yn erbyn Galba, a pherswadiodd y milwyr yng ngarsiwn Rhufain i'w gyhoeddi ef yn ymeradwr. Lladdwyd Galba gan rai o'r milwyr, a dilynwyd ef gan Otho.
Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr Dechreuodd y flwyddyn gyda Galba yn ymerawdwr. Roedd wedi ei enwi'n ymerawdwr gan Senedd Rhufain yn dilyn hunanladdiad Nero y flwyddyn flaenorol. Roedd Galba'n oedrannus a heb blant, felly roedd angen iddo enwi etifedd. Roedd Otho wedi disgwyl cael ei enwi'n etifedd, ond mabwysiadodd Galba Calpurnius Piso Licinianus fel mab a'i enwi'n etifedd. Ymatebodd Otho trwy gynllwynio gyda milwyr o Gard y Praetoriwm i wrthryfela yn erbyn Galba. Bu'r gwrthryfel yn llwyddiannus, a lladdwyd Galba a Piso. Cyhoeddwyd Otho yn ymerawdwr.
Otho Bu Otho yn Lusitania am ddeng mlynedd, a dywedir iddo lywodraethu'n dda. Pan fu gwrthryfel yn erbyn Nero, penodwyd Galba, rhaglaw talaith gyfagos Hispania Tarraconensis, yn ymerawdwr yn ei le, a chefnogwyd ef gan Otho. Dychwelodd Otho i Rufain yng nghwmni Galba, a chan fod yr ymerawdwr newydd yn 71 oed a'i ddau fab wedi marw o'i flaen, yr oedd Otho yn llawn gobaith cael ei ddewis gan Galba fel ei olynydd. Siomwyd ef pan ddewisodd Galba Lucius Calpurnius Piso Licinianus yn olynydd yn Ionawr 69.
Cato yr Hynaf Priododd ddwywaith, a chafodd ddau fab, Marcus Porcius Cato Licinianus a Marcus Porcius Cato Salonianus. Roedd yn ddylanwadol iawn yn Senedd Rhufain. Dechreuodd ymgyrch i sicrhau fod dinas Carthago yn cael ei dinistrio, gan ddiweddu pob araith, ar unthyw bwnc, gyda'r geiriau "Ceterum censeo, Carthaginem esse delendam" ("Heblaw hynny, rwy'n credu fod rhaid dinistrio Carthago"). Yn 149 CC, yn fuan wedi marwolaeth Cato, aeth Carthago i ryfel yn erbyn Numidia heb ganiatâd Rhufain. Cyhoeddodd Rhufain ryfel ar Carthago, a gyrrwyd byddin Rufeinig dan Scipio Aemilianus yn ei herbyn. Dinistrwyd Carthago ar ddiwedd y rhyfel.