Top 10 similar words or synonyms for fulminata

scythica    0.912432

nikephoros    0.882658

alaudae    0.867805

alexius    0.865261

macedonica    0.861769

ducas    0.857801

shapur    0.854869

civilis    0.852966

constans    0.852745

martia    0.850770

Top 30 analogous words or synonyms for fulminata

Article Example
Legio XII Fulminata Yn 54, wedi i Vologases I, brenin Parthia feddiannu Armenia, ymladdodd y lleng yn erbyn y Parthiaid dan y cadfridog Gnaeus Domitius Corbulo. Yn 62, dan Lucius Caesenius Paetus, gorchfygwyd y lleng yma a Legio IV Scythica gan y Parthiaid, ac ni chawsant ran yn ymgyrch lwyddiannus Corbulo yn erbyn y Parthiaid yn fuan wedyn.
Legio XII Fulminata Yn 75, dan Domitian, roedd y ymladd yn y Cawcasws. Ceir arysgrif yn Azerbhaijan gydag enw'r lleng. Yn 134, ymladdodd yn erbyn yr Alaniaid dan Arrianus, llywodraethwy Cappadocia. Ymladdodd dan Marcus Aurelius yn erbyn y Quadi. Wedi marwolaeth yr ymerawdwr Pertinax yn 193, bu ymryson am yr orsedd. Cefnogodd y lleng Pescennius Niger, llywodraethwr Syria, ond gorchfygwyd ef gan Septimius Severus. Yn ôl y "Notitia Dignitatum" roedd y lleng yn dal i wersylla ym Melitene tua 400.
Legio XII Fulminata Ymladdodd dros Cesar yn erbyn yr Helvetii ac yn erbyn y Nervii. Yn y rhyfel cartref yc hydig yn ddiweddarach, ymladdodd drosto yn erbyn Pompeius ym mrwydr Pharsalus, a chafodd yr enw "Victrix".
Legio XII Fulminata Wedi llofruddiaeth Cesar, ymladdodd dros Marcus Antonius, a roddodd yr enw "Antiqua" iddi. Ymladdodd dan Antonius yn erbyn y Parthiaid yn 36 CC. Dan yr ymerawdwr Augustus, bu yn yr Aifft am gyfnod, yna o 14 O.C. yn Syria, lle roedd ei gwersyll yn Raphana gyda Legio III Gallica.
Legio XII Fulminata Lleng Rufeinig oedd Legio XII Fulminata. Fe'i ffurfiwyd gan Iŵl Cesar yn 58 CC, a bu ganddi enwau eraill megis "Paterna", "Victrix", "Antiqua", "Certa Constans" a "Galliena". Ei symbol oedd y daranfollt ("fulmen").
Legio XII Fulminata Yn 66, dechreuodd y gwrthryfel mawr Iddewig. Cipiwid Jeriwsalem gan y Selotiaid a gyrrwyd Legio XII Fulminata gyda rhannau o IV Scythica a VI Ferrata dan lywodraethwr Syria, Gaius Cestius Gallus i adfeddiannu'r ddinas. Nid oedd byddin Gallus yn ddigon cryf i gipio'r ddinas, ac wrth ddychwelyd o jeriwsalem gorchfygwyd hwy gan yr Iddewon ym mrwydr Beth Horon. Collodd y lleng ei heryr a dioddef colledion trwm. Cymrodd ran yn ymgyrch Vespasian ac yn nes ymlaen ei fab Titus yn erbyn y gwrthryfelwyr, ac wedi cwymp Jeriwsalem, gwersyllwyd hi ym Melitene gyda XVI Flavia Firma, i warchod y ffîn ar afon Ewffrates.
Legio III Gallica Ymladdodd dros Antonius, Augustus a Lepidus aym Mrwydr Philippi. Ymladdodd yn erbyn y Parthiaid dan Marcus Antonius yn 36. Wedi i Augustus ennill Brwydr Actium yn erbyn Antonius, symudodd y lleng i Syria, gyda Legio VI Ferrata, Legio X Fretensis a Legio XII Fulminata. Raphana oedd ei chanolfan yno. Yn 63, ymladdodd dan Gnaeus Domitius Corbulo yn erbyn y Parthiaid, yna symudwyd y lleng i Moesia.
Martigny Oppidum neu vicus "Octodure" Celtaidd yn perthyn i'r Veragres. Ymladdwyd brwydr Octodure yma yn 56 CC rhwng y lleng Rufeinig Legio XII Fulminata dan Servius Galba a'r Veragres a'u cyngheiriaid y Sedunes a'r Nantuates. Sefydlodd yr ymerawdwr Claudius ddinas Rufeinig yma yn 47 OC dan yr enw "Forum Claudii Augusti", a newidiwyd yn fuan i "Forum Claudii Vallensium". Ceir oluion amffitheatr mewn cyflwr da yma.