Top 10 similar words or synonyms for fornival

richart    0.960332

choderlos    0.895122

sangre    0.885837

origine    0.870665

arnaut    0.858762

cronica    0.855983

bodas    0.855882

carolo    0.850602

traité    0.846128

mémoires    0.841785

Top 30 analogous words or synonyms for fornival

Article Example
Richart de Fornival Roedd yn gasglwr llawysgrifau brwd. Cedwir y catalog o lyfrau ei gasgliad a ysgrifennodd yn ei law ei hun. Roedd ganddo tua 300 o lawysgrifau - cyfanswm eithriadol iawn i unigolyn yn yr Oesoedd Canol - sy'n cynnwys cyfrolau ar y "trivium" a'r "quadrivium", athroniaeth, metaffiseg, meddygaeth, y Gyfraith (sifil ac eglwysig), yr Ysgrythurau, Tadau'r Eglwys a'r Clasuron. Mae llawer o'r llyfrau hyn yn Llyfrgell y Sorbonne, Paris, er 1272.
Richart de Fornival Llenor canoloesol yn yr iaith Ffrangeg, casglwr llawysgrifau, a chlerigwr oedd Richart de Fornival, a adwaenir hefyd fel Richard de Fournival (10 Hydref 1201 - c. 1 Mawrth ?1260). Ei gyfrol enwocaf yw'r bwystori "Bestiaire d'Amour" ('Bwystori Serch') sy'n cynrychioli penllanw traddodiad seciwlar - gweithiau alegoriaidd Cristnogol yw'r rhan fwyaf o'r bwystoriau - sydd â'i wreiddiau yng ngwaith y trwbadwriaid.
Richart de Fornival Uchelwr o ardal Picardi oedd Richart, mab Rogier de Fornival a hanner-brawd Arnoul, esgob Amiens o 1236 hyd 1246. Yn 1240 roedd yn ganon yn Eglwys Gadeiriol Amiens, diolch i'w frawd efallai, a chofnodir iddo fod yn ganghellor yno yn 1246. Cofnodir hefyd iddo gael ei drwyddedu yn llawfeddyg gan y Pab Innocent IV yn yr un flwyddyn. Bu farw ar 1 Mawrth, yn 1259 neu 1260 (yr olaf sydd fwy tebygol).
Richart de Fornival Ysgrifennodd sawl llyfr ar alcemeg (cyhoeddodd draethawd Lladin ar y pwnc) a chyfrolau hyfforddiadol, didactig, ar serch. Yn y dosbarth olaf y mae'r "Bestiaire d'Amour" yn syrthio. Cyfuniad ydyw o ddeunydd naturiaethol a chwedlonol y bwystoriau traddodiadol ac esboniadau ar natur serch a'r llwybr i lwyddiant ym myd serch. Cafwyd cyfieithiadau Cymraeg o'r "Bestiaire" gan Gwilym Tew, Llywelyn Siôn ac eraill.
Uncorn Ceir sawl cyfeiriad at y creadur yn llenyddiaeth yr Oesoedd Canol. Mae'n un o greaduriad amlycaf y bwystorïau canoloesol. Deillia'r cyfeiriadau ato yn y Gymraeg o gyfieithiadau o lyfr y Ffrancwr Richart de Fornival (1201 - c.1260), sef y "Bestiaire d'Amour" ("Bwystori Serch"). Dyma'r disgrifiad o'r uncorn a geir yng nghyfieithiad Llywelyn Siôn o waith Fornival: