Top 10 similar words or synonyms for diocletian

vespasian    0.847280

trajan    0.839158

severus    0.824713

maximinus    0.815921

antonius    0.812262

claudius    0.812056

hephaestion    0.810301

septimius    0.808106

gaius    0.803786

ymerawdwr    0.802770

Top 30 analogous words or synonyms for diocletian

Article Example
Diocletian Diocletian (Lladin: "Gaius Aurelius Valerius Diocletianus") (c. 245 – 3 Rhagfyr 311), oedd ymerawdwr Rhufain o'r 20 Tachwedd 284 hyd 1 Mai 305). Yn ystod ei gyfnod fel ymerawdwr creodd y Tetrarchiaeth.
Diocletian Daeth Diocletian yn ymerawdwr ar ddiwedd y cyfnod a elwir yn argyfwng y drydedd ganrif. Yn y cyfnod yma bu 19 o ymerodron mewn cyfnod o 50 mlynedd, llawer ond yn teyrnasu am ychydig fisoedd. Gwnaeth Diocletian newidiadau mawr yn nhrefn rheoli'r ymerodraeth. Ceisiodd adfywio'r economi a rhannodd yr ymerodraeth yn 96 talaith oedd wedi eu rhannu'n 12 rhanbarth diocesis. Ceisiodd hefyd adfywio hen grefydd Rhufain, a bu llawer o erlid ar y Cristionogion yn ystod ei deurnasiad.
Diocletian Ar 1 Mai 305 ymddeolodd Dioclecian a Maximianus yn ôl y cynllun; y tro cyntaf i ymerawdwr Rhufeinig ymddeol yn wirfoddol. Yr oedd Diocletian wedi adeiladu palas iddo'i hun yn Spalatum (Split heddiw) yn Dalmatia. Dywedir ei fod yn ei ddifyrru ei hun ym ystod ei ymddeoliad trwy dyfu bresych. Bu farw yn ei blasdy yn y flwyddyn 313.
Diocletian Ganed Diocletian yn Dalmatia o deulu distadl. Dywed rhai fod ei dad yn gaethwas wedi ei ryddhau, o Illyria. Ei enw gwreiddiol oedd Diocles (Διοκλής). Ymunodd a'r fyddin a threuliodd ei flynyddoedd cynnar mewn ymgyrchoedd parhaus ar ffin Afon Donaw, yng Ngâl ac yn ernyn y Persiaid. O dan yr ymerodron Aurelian a Probus dringodd trwy'r rhengoedd nes dod yn bennaeth gwarchodlu personol yr ymerawdwr Numerian yn ystod ei ymgyrch yn erbyn y Parthiaid.
Diocletian Y newid pwysicaf a wnaed gan Diocletian oedd dechrau'r Tetrarchiaeth, oedd yn rhannu'r ymerodraeth yn bedwar. Yn rheoli'r rhannau hyn yr oedd dau "Augustus", sef Diocletian ei hun a Maximinus, a dau "Cesar", Galerius a Constantius Chlorus. Yr oedd Diocletian, fel Augustus y dwyrain, yn gyfrifol am Thracia, Asia a'r Aifft; Galerius yn gyfrifol am y Balcanau heblaw Thracia, Maximinus fel Augustus y gorllewin yn rheoli Italia, Hispania ac Affrica, a'r Cesar Constantius Chlorus yn gyfrifol am Gâl a Phrydain. Yr oedd pob Augustus i fod i ymddeol ar ôl 20 mlynedd, gyda'r ddau Gesar yn dod yn Augustus yn eu lle.