Top 10 similar words or synonyms for demetrius

poliorcetes    0.943224

antigonus    0.935616

antiochus    0.927217

seleucus    0.925116

cassander    0.916313

satrap    0.915510

mithridates    0.903313

eumenes    0.901466

soter    0.901078

lysimachus    0.899918

Top 30 analogous words or synonyms for demetrius

Article Example
Demetrius Poliorcetes Yn 307 CC, arweiniodd fyddin tuag Athen, a gorfodi Demetrius Phalereus, unben Athen, i ffoi i Alexandria. Ail-sefydlodd Demetrius hen gyfansoddiad Athen, a barodd i'r dinasyddion ei gyfarch ef a'i dad fel "theoi soteres", "gwaredwyr dwyfol". Yn 306 CC, gorchfygodd Menelaus, brawd Ptolemi I Soter, brenin yr Aifft, ym Mrwydr Salamis ger arfordir Cyprus, gan adael ei dad, Antigonos, yn feistr ar ran ddwyreinol y Môr Canoldir a'r Dwyrain Canol heblaw Babylonia. Cyhoeddodd Antigonos ei hun yn frenin Asia Leiaf a gogledd Syria, ac enwodd Demetrius yn gyd-frenin.
Demetrius Poliorcetes Yn 305 CC, bu Demetrius yn gwarchae ar ddinas Rhodos, oedd wedi gwrthod cynorthwyo Antigonos yn erbyn Ptolemi I Soter. Enillodd Demetrius yr enw "Poliorcetes" ("y gwarchaewr dinasoedd") am ei ymdrechion, oedd yn cynnwys adeiladu tŵr gwarchae 40 medr o daldra ac 20 medr o led, a elwid yn "Helepolis" ("Y cipiwr dinasoedd"), ond er gwarchae ar y ddinas am flwyddyn, ni allodd ei chipio.
Demetrius Poliorcetes Cadfridog Macedonaidd a ddaeth yn frenin Macedonia oedd Demetrius Poliorcetes (337-283 CC, Groeg: "Δημήτριος Πολιορκητής"). Roedd yn fab i Antigonos I Monophthalmos, un o'r "Diadochi", olynwyr Alecsander Fawr.
Demetrius Poliorcetes Ym Mrwydr Ipsus yn 301 CC, gorchfygwyd byddin Antigonos a Demetrius gan fyddin Lysimachus a Seleucus I Nicator, oedd wedi gwneud cynghrair yn eu herbyn, a lladdwyd Antigonus yn y frwydr. Bu raid i Demetrius ffoi, ond yn 297 CC, cafodd Alexander V, brenin Macedonia ei ddiorseddu gan ei frawd Antipater II. Troes Alexander at Demetrius Poliorcetes am gymorth, ond gwnaeth Demetrius ei hun yn frenin Macedonia, a llofruddiodd Alexander V.
Cleopatra Thea Tua 148 CC, ail-briododd a Demetrius II Nicator. Bu iddynt ddau fab, Seleucus V Philometor ac Antiochus VIII Grypus, ac efallai ferch (Laodice?). Pan gymerwyd Demetrius yn garcharor wrth ymladd yn erbyn Parthia, priododd Cleopatra ei frawd, Antiochus VII Sidetes. Cawsant o leiaf un mab, Antiochus IX Cyzicenus. Tua 129 CC, lladdwyd Antiochus yn ymladd yn erbyn y Parthiaid. Erbyn hyn roedd Demetrius wedi cael ei ryddhau, a dychwelodd i hawlio ei orsedd a'i wraig.
Cleopatra Thea Yn ddiweddarach, ceisiodd Demetrius ymosod ar yr Aifft. Ymatebodd brenin yr Aifft trwy gefnogi Alexander Zabinas, a hawliai fod yn fab i Alexander Balas, fel brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd. Gorchfygodd ef Demetrius ger Damascus. Enciliodd Demetrius i Ptolemais Hermiou, ond roedd pyrth y ddinas wedi eu cau yn ei erbyn ar orchymyn Cleopatra. Aeth ar fwrdd llong i ffoi, ond llofruddiwyd ef ar orchymyn Cleopatra.
Antigonos I Monophthalmos Gorchfygwyd Antigonos a Demetrius gan fyddinoedd unedig Seleucus a Lysimachus ym Mrwydr Ipsus yn 301 CC. Lladdwyd Antigonos, oedd yn 80 oed, yn y frwydr, a rhannwyd ei deyrnas rhwng Lysimachus a Seleucus. Llwyddodd Demetrius i'w wneud ei hun yn frenin Macedonia yn ddiweddarach.
Antigonos I Monophthalmos Llwyddodd Demetrius i orchfygu llynges Ptolemi I Soter ym Mrwydr Salamis ger arfordir Cyprus yn 306 CC, gan gipio'r ynys. Cyhoeddodd Antigonos ei hun yn frenin, gan wneud Demetrius yn gyd-frenin. Ymosododd ar yr Aifft, ond llwyddiodd Ptolemi i amddiffyn y ffîn yn ei erbyn.
Mithridates I, brenin Parthia Brenin Parthia oedd Mithridates I neu Mithridates (195 CC - 138 CC), a deyrnasai fel "Brenin Mawr" y wlad o tua 171 CC hyd 138 CC, gan ddilyn ei frawd Phraates I o Parthia (176 CC - 171 CC). Roedd yn fab i'r brenin Phriapatius o Parthia (191 CC - 176 CC). Dan Mithridates tyfodd Parthia yn rym gwleidyddol mawr a lledaenwyd i'r gorllewin i gynnwys Mesopotamia. Cipiwyd Babylonia (144 CC), Media (141 BC) ac yna Persia (139 BC), pan ddaliodd Mithridates y brenin Seleucid Demetrius II o Syria (146-139 CC a 129-126 CC). Yn ddiweddarach priododd Demetrius II Rhodogune ferch Mithridates.
Seleucus I Nicator Cyhoeddodd ei hun yn frenin (basileus) yn 305 CC, a sefydlodd Seleucia ar y Tigris fel ei brifddinas. Wedi marwolaeth Apama, priododd Stratonice, merch Demetrius Poliorcetes yn 300 CC. Gallodd ymestyn ei ymerodraeth tua'r gorllewin hefyd, ac erbyn 281 CC roedd yn feistr ar y rhan fwyaf o hen ymerodraeth Alecsander. Yn y flwyddyn honno, croesodd i'r Chersonese gyda'r bwriad o feddiannu Thrace a Macedonia ei hun, ond llofruddiwyd ef gan Ptolemi Keraunos ger Lysimachia. Olynwyd ef gan ei fab, Antiochus I Soter.