Top 10 similar words or synonyms for decius

nepos    0.903625

pertinax    0.899158

caracalla    0.898036

commodus    0.890290

gnaeus    0.889763

vipsanius    0.885337

sextus    0.882388

domitius    0.881906

servius    0.880515

lepidus    0.880475

Top 30 analogous words or synonyms for decius

Article Example
Decius Ganed Decius yn Budalia gerllaw Sirmium yn Pannonia Isaf, dinas Sremska Mitrovica heddiw. Tua 245 penodwyd ef yn bennaeth y llengoedd yn ardal Afon Donaw gan yr ymerawdwr Philip yr Arab. Yn 248 neu 249 bu'n ceisio rhoi diwedd ar wrthryfel y llengoedd yn nhaleithiau Moesia a Pannonia. Fodd bynnag mynnodd y llengoedd gyhoeddi Decius yn ymerawdwr.
Decius Wedi ei gyhoeddi'n ymerawdwr cychwynodd Decius a'i fyddin tua Rhufain. Gorchfygasant Philip gerllaw Verona, a lladdwyd ef yn y frwydr. Cydnabyddwyd Decius yn ymerawdwr gan y Senedd. Gwelai Decius fod yr ymerodraeth yn llwgr, a chredai mai un rheswm am hyn oedd fod yr hen werthoedd wedi eu colli. Ceisiodd ail-sefydlu yr hen arferiad o offrymu i'r hynafiaid trwy'r ymerodraeth. Daeth hyn ag ef i wrthdrawiad a'r Cristionogion, oedd yn gwrthod cymeryd rhan, ac oherwydd hynny erlidiwyd hwy gan Decius. Yn 251 cyhoeddoedd ei fab Herennius Etruscus yn gyd-ymerawdwr.
Decius Yr oedd y Gothiaid wedi colli llawer o'u milwyr wrth gipio Filiopolis, a chynigiasant adael y ddinas heb gymeryd carcharorion nac ysbail os gadawai'r Rhufeiniaid lonydd iddynt. Fodd bynnag yr oedd Decius wedi llwyddo i'w hamgylchynu, a gwrthododd y cynnig. Ym mrwydr Attrio y Gothiaid a gafodd y fuddugoliaeth, a lladdwyd yr ymerawdwr a'i fab ar faes y gad. Enwodd y Senedd yn Rhufain fab ieuengaf Decius, Hostilian, fel ymerawdwr, ond cyhoeddodd llengoedd Afon Donaw Trebonianus Gallus yn ymerawdwr.
Decius Gaius Messius Quintus Traianus Decius (c. 201 – 1 Gorffennaf 251) oedd ymerawdwr Rhufain o 249 hyd 251. Cymerodd yr enw "Traianus" oherwydd ei edmygedd o'r ymerawdwr Trajan.
Decius Bu Decius yn ymladd yn erbyn y Gothiaid oedd wedi croesi Afon Donaw ac ymosod ar rannau o Moesia a Thracia. Yr oedd y Gothiaid yn gwarchae dinad Nicopolis ar lan Afon Donaw. Pan glywsant fod byddin Rhufain yn dynesu, croesasant y mynyddoedd i ymosod ar Filiopolis. Dilynodd Decius hwy, ond wedi iddo golli brwydr ger Beroë llwyddodd y Gothiaid i gipio Filiopolis.