Top 10 similar words or synonyms for crassus

pompeius    0.919362

licinius    0.912176

sulla    0.900956

gnaeus    0.900170

gaius    0.888366

metellus    0.886856

antonius    0.885039

vespasian    0.873878

publius    0.870989

vercingetorix    0.868316

Top 30 analogous words or synonyms for crassus

Article Example
Gomphus crassus Gwas neidr o deulu'r "Gomphidae" (neu'r 'Gweision neidr tindrom') yw'r Gomphus crassus. Fel llawer o weision neidr, ei gynefin yw pyllau o ddŵr, llynnoedd, nentydd neu afonydd.
Marcus Licinius Crassus Ymddengys fod Crassus yn drydydd mab I’r conswl Publius Licinius Crassus Dives. Lladdwyd ei dad ac un o’I frodyr yn Rhagfyr 87 CC wedi i Gaius Marius gipio grym yn Rhufain. Ffodd Crassus I Hispania ac yna i Ogledd Affrica., cyn ymuno a Sulla pan ddychwelodd ef i’r Eidal. Roedd yn gadfridog ar ran o fyddin Sulla pan orchfygwyd gweddillion cefnogwyr Marius a'r Samnitiaid tu allan i Rufain
Marcus Licinius Crassus Roedd teulu Crassus eisoes yn gyfoethog, a daeth ef yn gyfoethocach fyth. Dywedir iddo ffurfio math ar frigad dân yn Rhufain. Pan fyddai tŷ ar dân, byddai Crassus yn dod yno ac yn cynnig ei brynu am bris isel; yna byddai ei wŷr yn diffodd y tân. Trwy ei gyfoeth enillodd rym yn Rhufain, a pan wrthryfelodd y caethweision dan Spartacus yn 73 CC, rhoddwyd y gwaith o ddelio a’r gwrthryfel i Crassus. Bu’n ymgyrch hir, ond yn 71 CC gorchfygodd Crassus fyddin Spartacus. croeshoeliodd Crassus chwe mil o garcharorion ar hyd y "Via Appia".
Marcus Licinius Crassus Gwleidydd a chadfridog Rhufeinig oedd Marcus Licinius Crassus (tua. 115 CC - 53 CC).
Marcus Licinius Crassus Yn 60 CC daeth Crassus i gytundeb i rannu grym gyda Iŵl Cesar a Gnaeus Pompeius Magnus. Yn 55 CC roedd yn gonswl am yr ail dro, a rhoddwyd Syria iddo fel talaith. Roedd Crassus yn awyddus am lwyddianau milwrol, i gystadlu a Cesar a Pompeius, a chroesodd Afon Euphrates mewn ymgais i goncro Parthia. Gorchfygwyd ei fyddin gan y Parthiaid ym Mrwydr Carrhae (Harran yn Nhwrci heddiw) yn 53 CC, pan laddwyd mab Crassus. Yn fuan wedi’r frwydr aeth Crassus at y Parthiaid i drafod telerau, ond cipiwyd ef a’i ladd. Mae chwedl i’r Parthiaid ei ladd trwy dywallt aur tawdd i lawr ei wddf, i geisio diwallu ei wanc am aur.
Spartacus Wedi cyrraedd de'r Eidal, gwnaeth Spartacus gytundeb a môrladron o Cilicia i fynd a'i fyddin i Sicilia yn eu llongau, ond ni chadwodd y môrladron at y cytundeb. Erbyn hyn roedd gan Crassus wyth lleng, a cheisiodd gornelu byddin Spartacus yn ne yr Eidal. Gallodd Spartacus ymladd ei ffordd trwy linellau Crassus a symud i gyfeiriad Brundisium (Brindisi heddiw). Llwyddodd Crassus i'w ddal, a lladdwyd Spartacus yn y frwydr.
Parot Niam-Niam Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn "P. crassus", sef enw'r rhywogaeth. Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Affrica.
Spartacus Gorchfygwyd y caethweision yn llwyr, a croeshoeliodd Crassus tua 6,000 ohonynt ar hyd y "Via Appia" rhwng Capua a Rhufain.
Gnaeus Pompeius Magnus Dychwelodd Pompeius a'i fyddin i'r Eidal yn 71 CC. Roedd Crassus yn ymladd yn erbyn y caethweision dan arweiniaid Spartacus, ac newydd eu gorchfygu mewn brwydr fawr. Daeth Pompeius a'i fyddin ar draws gweddillion o fyddin Spartacus a'u gorchfgu, ac yna hawlio ei fod wedi rhoi diwedd ar y rhyfel, gan ennyn cynddaredd Crassus.
Gaius Cassius Longinus Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am ei ieuenctid. Yn 53 CC roedd yn dal swydd "quaestor", a chymerodd ran yn ymgyrch Crassus yn erbyn y Parthiaid. Pan orchfygwyd Crassus ger Carrhae, llwyddodd Cassius o achub rhan o'r fyddin, ac yna amddiffyn Syria rhag y Parthiaid. Yn 49 CC a 48 CC, roedd yn llyngesydd ar ran o lynges Pompeius. Wedi Brwydr Pharsalus, rhoddodd Iŵl Cesar bardwn iddo.