Top 10 similar words or synonyms for clements

ernie    0.924274

russ    0.902674

donnell    0.894065

healy    0.893838

walsh    0.893527

blythe    0.893097

morrissey    0.891985

elliott    0.891125

dunne    0.890981

paddy    0.890417

Top 30 analogous words or synonyms for clements

Article Example
Ernie Clements Seiclwr rasio, adeiladwr fframiau a pherchennog siop Seisnig oedd Ernie Clements (ganwyd Ernest J Clements 28 Chwefror 1922 Hadley, Swydd Amwythig, bu farw 3 Chwefror 2006, Malvern, Swydd Gaerwrangon).
Ernie Clements Cafodd y gynnig i droi'n broffesiynol gan drefnwyr y Tour de France yn 1947 er mwyn iddo gallu cystadlu yn y ras, ond gwrthododd Ernie'r cynnig gan nad oedd eisiau colli ei statws fel reidiwr amatur ym Mhrydain. Ar y pryd, nid oedd modd i reidiwr proffesiynol ym Mhrydain droi'n ôl yn amatur. Profodd hyn yn rwystredig ar gyfer seiclwyr proffesiynol a oedd yn cyrraedd diwedd eu gyrfa gan na allent gystadlu ar lefel is er mwyn mwynhad; eithrwyd hwy o'r chwaraeon yr oeddent wedi ymdrolli ynddi drwy eu bywyd.
Ernie Clements Enillodd Bencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd y BLRC yn 1943 ac 1945, gan ddod yn ail yn 1944. Gwaharddwyd unrhyw seiclwyr a gystadlodd yn rasus y BLRC rhag gystadlu yn rasus yr NCU; ond rhywsut llwyddodd Ernie i osgoi hyn ac enillodd Bencampwriaeth Cenedlaethol yr National Cyclists' Union yn ogystal yn 1946 a daeth yn ail yn 1948. Yn sicr, pe na byddai Ernie wedi dod yn aelod o'r NCU ni fyddai wedi cael ei ystyried i gynyrchioli Prydain ym Mhencampwriaeth y Byd (amatur) yn 1946, ac ni fuasai wedi ennill y fedal arian yn Ras Ffordd Tîm Gemau Olympaidd 1948 yn Llundain, a wnaeth ar y cyd gyda Bob Maitland, Gordon Thomas ac Ian Scott. Enillodd gam cyntaf o ras Brighton-Glasgow yn 1951.
Ernie Clements Ganwyd Ernie yn Hadley, Swydd Amwythig ond treuliodd y rhan fwyaf o'i ddyddiau cynnar yn byw yn Old Park lle agorodd ei siop feics yn ddiweddarach. Bu'n adeiladu fframiau beics ac yn reolwr ar gwmni Falcon Cycles yn yr 1950au hyd yr 1970au. Cyn ei farwolaeth, bu'n byw yn Ledbury, Swydd Henffordd, yn 1990 tra'n 67 oed agorodd siop 'Clements Cycles' yno er mwyn cadw mew'n cysylltiad gyda'r byd seiclo. Bu farw yn Ysbyty Cymuned Malvern yn 83 oed ar 5 Chwefror 2006, wedi dioddef o glefyd Parkinsons am flynyddoedd.
Ernie Clements Cynhelir Ras Gymalau Goffa Ernie Clements dros dau ddiwrnod, yn flynyddol gan y League of Veteran Racing Cyclists; gyda dwy ras arwahan ar gyfer reidwyr 40-54 oed, a 55 oed a hŷn. Mae dau gymal yn y diwrnod cyntaf, sef Prologue byr (1.36 mmilltir yn 2007) a Criterium (27 milltir yn 2007), Ras ffordd yw'r trydydd cymal a gynhelir ar yr ail ddiwrnod (64/48 milltir yn 2007).