Top 10 similar words or synonyms for bukovina

respublika    0.787786

nicopolis    0.787166

şanlıurfa    0.782584

akkad    0.781610

basrah    0.778311

cwmcarfan    0.775440

pliska    0.772376

transylfania    0.770766

bujumbura    0.769958

türkiye    0.769038

Top 30 analogous words or synonyms for bukovina

Article Example
Rwtheniaid Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf hawliodd y Rwtheniaid yn Nwyrain Galisia eu hunanbenderfyniad, ond cafodd eu tiriogaeth ei llyncu gan Wlad Pwyl. Daeth y Rwtheniaid yng ngogledd ddwyrain Carpathia yn rhan o Tsiecoslofacia gyda thalaith eu hunain, Carpathia-Wcráin. Daeth Rwtheniaid Besarabia a Bukovina dan reolaeth Rwmania a'u diogelu gan Gytundeb Lleiafrifoedd Rwmania.
Rwtheniaid Yn yr Oesoedd Canol Diweddar cafodd Rwthenia ei goncro gan Lithwania, a unodd yn hwyrach â Gwlad Pwyl. Cymhathodd Rwtheniaid y dosbarth uchaf yng Ngalisia, Bukovina, a Charpathia i gymdeithas Cymanwlad Gwlad Pwyl a Lithwania, gan fabwysiadu'r Bwyleg a Phabyddiaeth, tra'r oedd y werin yn byw mewn tlodi.
Hafa Nagila Daw'r alaw o gân ddawns werin o Bukovina. Defnyddia'r modd Phrygiaidd a ddefnyddir yn aml mewn cerddoriaeth Romaniaidd. Cyfansoddwyd y geiriau a geir heddiw gan Abraham Zevi Idelsohn yn 1918 er mwyn dathlu buddugoliaeth Prydain ym Mhalesteina yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ffynhonnell y geiriau yw salm 118 yn y Beibl Hebreaidd.
Rwtheniaid Cafodd Rwthenia ei rhyddhau gan luoedd Sofietaidd ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Ildiodd Tsiecoslofacia y diriogaeth i'r Undeb Sofietaidd a daeth yn oblast Zakarpatskaya ("Trawsgarpathaidd") yn Ngweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd yr Wcráin. Bu'r Undeb Sofietaidd hefyd yn rheoli'r rhan fwyaf o Bukovina a Galisia, ac felly adunwyd y mwyafrif helaeth o Rwtheniaid ac Wcreiniaid yn yr un wladwriaeth. Ers cwymp yr Undeb Sofietaidd trigai'r mwyafrif o Rwtheniaid yn yr Wcráin.
Paul Celan Fe'i ganwyd yn Cernăuţi, Bukovina, Teyrnas Rwmania, heddiw yn Chernivtsi, Wcrain. O dan ddylanwad ei dad, Leo Antschel, cafodd addysg gyfrwng Hebraeg yng ngholeg "Safah Ivriah", ond oherwydd ei fam, Fritzi, cafwyd Almaeneg yn famiaith, a Rwmaneg yn iaith y gymuned. Wedi ei Bar Mitzvah yn 1933, trodd i ffwrdd o grefydd ac at sosialaeth. Astudiodd wedyn yn "Lyceum Mihai " (ysgol Chernivtsi rhif 5 bellach) o 1934-1938.
Paul Celan Ym Mehefin 1940 cipiwyd ardal Bukovina gan y Sofietiaid. Concrodd yr Almaenwyr yr ardal y flwyddyn ganlynol, yng Ngorffennaf 1941. Llosgwyd prif synagog Chernivtsi gan y SS Einsatzkommando ac anfonwyd Iddewon Chernivtsi i ' ghetto', man lle cyfiethodd Celan sonedau William Shakespeare. Yno y ddaeth yn gyfarwydd a chaneuon a diwylliant Iddew-Almaeneg ei bobl. Aethpwyd a'r rhan fwyaf o Iddewon Chernivtsi i wersyll yn y Wcrain lle bu farw ei rieni yn 1942, ond cadwyd Celan i weithio i'r Almaenwyr tan ei ryddhau yn Chwefror 1944 gan y Rwsiaid. Dyma'r cyfnod yr ysgrifenodd ei gerdd enwocaf "Todesfuge" , a gyfiethwyd i lawer o ieithoedd wedyn; gan gynnwys y Gymraeg (gan Mererid Hopwood yn y cylchgrawn Taliesin.
Rwmania Datblygodd y wlad fodern yn nhiriogaethau'r dalaith Rufeinig Dacia. Unodd tywysogaethau Moldafia a Walachia ym 1859 yn sgil y deffroad cenedlaethol. Rhoddid yr enw Rwmania ar y wlad yn swyddogol ym 1866, ac enillodd ei hannibyniaeth oddi ar Ymerodraeth yr Otomaniaid ym 1877. Ymunodd Transylfania, Bukovina a Besarabia â Theyrnas Rwmania ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Brwydrodd Rwmania ar ochr yr Almaen Natsïaidd yn erbyn yr Undeb Sofietaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd tan iddi ymuno â'r Cynghreiriaid ym 1944. Cafodd y wlad ei meddiannu gan y Fyddin Goch a chollodd sawl tiriogaeth. Wedi'r rhyfel, trodd Rwmania yn weriniaeth sosialaidd ac yn aelod o Gytundeb Warsaw. Dymchwelwyd y drefn gomiwnyddol gan Chwyldro 1989, a newidodd Rwmania'n wlad ddemocrataidd a chanddi economi'r farchnad.