Top 10 similar words or synonyms for antigonus

demetrius    0.935617

cassander    0.935097

eumenes    0.930291

seleucus    0.929853

lysimachus    0.927294

antiochus    0.926951

satrap    0.918923

poliorcetes    0.911070

parthia    0.905382

mithridates    0.903958

Top 30 analogous words or synonyms for antigonus

Article Example
Cassander Cyhoeddodd Cassander ei hun y frenin yn 305 CC. Wedi i Antigonus gael ei ladd ym Mrwydr Ipsus yn 301 CC, ni allai neb fygwth ei reolaeth ar deyrnas Macedon.
Cassander Ymateb Cassander i hyn oedd gwneud cynghrair ag Antigonus, Ptolemi a Lysimachus yn erbyn Polyperchon. Wedi dinistrio llynges Polyperchon, cyhoeddodd Cassander ei hun yn rheolwr Macedon yn 317 CC. Gosododd warchae ar Olympias, mam Alecsander Fawr, ynghyd a'i weddw Roxane a'i fab Alexander IV, yn ninas Pydna. Pan ildiodd y ddinas, dienyddiodd Olympias, a charcharu Roxane ac Alexander yn Amphipolis. Lladdwyd hwy yn ddiweddarach.
Perdiccas Cymerodd Meleager, pennaeth y gwŷr traed, i'r ddalfa a'i ladd. Yn 322 CC, torrodd ei ddyweddïad a Nicaea, merch Antipater, pan gynigiodd mam Alecsander, Olympias, iddo briodi ei merch Cleopatra, chwaer Alecsander. Cyn hir bu rhyfel rhwng Perdiccas a'i gyngheiriad Eumenes ar un ochr, ac Antigonus, Antipater, Craterus a Ptolemi ar yr ochr arall.
Cilicia Concwerwyd Cilicia tua 446 CC gan Cyrus Fawr. Yn 333 CC daeth yn eiddo Alecsander Fawr. Wedi ei farwolaeth ef, daeth i feddiant satrap Phrygia, Antigonus Monophthalmus, ond wedi iddo ef gael ei orchfygu yn 301 CC, rhannwyd Cilicia rhwng yr Ymerodraeth Seleucaidd a'r Ptoleniaid.
Cynghrair Achaea Roedd y cynghrair mewn bodolaeth yn ystod y 5ed a'r 4 CC. Ail-ffurfiwyd y cynghrair yn gynnar yn y 3 CC, a daeth i gynnwys dinasoedd tu allan i Achaea ei hun, gan ddechrau gyda Sicyon. Cyn hir roedd yn rheoli rhan helaeth o'r Peloponnesos, ond daeth dan bwysau oddi wrth Sparta dan Cleomenes III. Bu raid i arweinydd y gynghrair, Aratus o Sicyon, alw am gymorth gan Antigonus Doson, brenin Macedon.
Demetrius Poliorcetes Ym Mrwydr Ipsus yn 301 CC, gorchfygwyd byddin Antigonos a Demetrius gan fyddin Lysimachus a Seleucus I Nicator, oedd wedi gwneud cynghrair yn eu herbyn, a lladdwyd Antigonus yn y frwydr. Bu raid i Demetrius ffoi, ond yn 297 CC, cafodd Alexander V, brenin Macedonia ei ddiorseddu gan ei frawd Antipater II. Troes Alexander at Demetrius Poliorcetes am gymorth, ond gwnaeth Demetrius ei hun yn frenin Macedonia, a llofruddiodd Alexander V.
Chares o Lindos Cerflunydd Groegaidd a anwyd ar ynys Rhodes oedd Chares o Lindos (ganed 280 CC). Bu'n un o fyfyrwyr Lysippus. Adeiladodd Chares Colossus Rhodes yn 282 CC, a oedd yn gerflun efydd enfawr i dduw yr haul a duw nawdd Rhodes, Helios. Adeiladwyd y cerflun i gofio am fuddugoliaeth Rhodes dros Macedoniaid a ymosododd arnynt yn 305 CC, o dan arweiniad Demetrius I, mab Antigonus, cadfridog i Alexander the Great.
Seleucus I Nicator Dan Gytundeb Triparadisus yn 321 CC, rhoddwyd Babilon i Seleucus. Gorfodwyd ef i ffoi yn 316 CC, pan wnaeth Antigonus ei hun yn feistr ar y dwyrain. Aeth Seleucus i'r Aifft, lle bu'n cydweithredu a Ptolemi. Wedi buddugoliaeth Ptolemi ym Mrwydr Gaza yn 312 CC, gallodd ddychwelyd i Babilon, ac ystyrir y flwyddyn yma fel blwyddyn sefydlu'r Ymerodraeth Seleucaidd. Llwyddodd i ymestyn ei awdurdod dros ran helaeth o'r dwyrain, cyn belled ag Afon Jaxartes ac Afon Indus yn India. Bu'n ymladd a Chandragupta yn yr ardal yma, ond gwnaed cytundeb heddwch rhyngddynt.
Philopoemen Ganed ef ym Megalopolis, yn fab i Craugis. Bu ei dad farw pan oedd yn ieuanc, a mabwysiadwyd ef gan ddinesydd amlwg, Cleander. Addysgwyd ef gan yr athronwyr Ecdemus a Demophanes. Daeth Philopoemen i sylw pan gynorthwyodd i amddiffyn Megalopolis yn erbyn Cleomenes III, brenin Sparta yn 223 CC. Y flwyddyn wedyn, gwnaeth Antigonus III Doson, brenin Macedon, gynghrair a’r Achaeaid, Boeotiaid, Thessaliaid a’r Acarnaniais i ymosod ar Sparta. Roedd Philopoemen yn gadfridog ar ran o fyddin y cynghrair, a bu ganddo ran amlwg ym Mrwydr Sellasia pan orchfygywyd byddin Sparta.