Top 10 similar words or synonyms for alaric

alexius    0.888865

odoacer    0.886353

domitius    0.881023

epiphanes    0.880485

philometor    0.870929

gnaeus    0.869722

attalus    0.869039

sextus    0.868373

lucullus    0.867094

priscus    0.865417

Top 30 analogous words or synonyms for alaric

Article Example
Alaric I Ganed Alaric tua'r flwyddyn 375 at ynys Peuce, ger aber Afon Donaw. Dechreuodd ei yrfa filwrol fel arweinydd byddin Fisigothaidd yn ymladd dros yr Ymerodraeth Rufeinig. Tua 395 gwrthryfelodd y Fisigothiaid a chyhoeddi Alaric yn frenin. Bu'n ymladd yn erbyn Honorius, yr Ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin. Yn 401 gwnaeth gytundeb ag Arcadius, yr ymerawdwr yn y dwyrain, a'i galluogodd i arwain ei fyddin tua'r gorllewin, gan gipio dinasoedd Groegaidd megis Corinth a Sparta cyn cyrraedd Yr Eidal. Yno, gorchfygwyd ef gan y cadfridog Rhufeinig Stilicho ar 6 Ebrill 402 ym Mrwydr Pollentia.
Alaric I Wedi i Honorius lofruddio Stilicho yn 408, gallodd Alaric a'i fyddin ymosod ar yr Eidal eto a gosod gwarchae ar ddinas Rhufain. Ym mis Awst 410 cipiodd y ddinas a'i hanrheithio, gan ddwyn chwaer yr ymerawdwr, Gala Placidia, ymaith fel carcharor. Yn fuan wedyn bu farw yn Cosenza, efallai o dwymyn. Claddwyd ef ar wely Afon Busento; trowyd llif yr afon o'i sianel i gloddio ei fedd, ac yna wedi ei gladdu gadawyd i'r dŵr ddychwelyd fel na allai neb ysbeilio ei fedd. Olynwyd ef gan ei frawd-yng-nghyfraith, Ataulf.
Alaric I Roedd Alaric I (c. 370 - 410) yn frenin y Fisigothiaid (395 - 410). Mae'n fwyaf adnabyddus oherwydd iddo gipio dinas Rhufain yn 410, y tro cyntaf i hyn ddigwydd ers 390 CC.
Stilicho Gwanychodd y digwyddiadau hyn yr ymerodraeth yn y gorllewin yn sylweddol, ac erbyn Medi 408 roedd Alaric wedi gosod gwarchae ar ddinas Rhhufain ei hun. Yn 410 meddiannodd Alaric y ddinas a'i hanrheithio.
Stilicho Ychydig cyn ei farw yn 395, penododd Theodosius ef yn llywodraethwr ar ran ei fab ieuanc Honorius, a ddaeth yn ymerawdwr yn y gorllewin. Bu Stilicho yn ymladd am flynyddoedd yn erbyn y Fisigothiaid dan Alaric I, gan eu gorchfygu ym Macedonia yn 397. Gorchfygodd wrthryfel y "comes" Gildo yng Ngogledd Affrica yr un flwyddyn. Ymladdodd ddwy frwydr fawr arall yn erbyn Alaric, Pollentia yn 402 a Verona yn 403.
Fisigothiaid Yn 410 cipiwyd Rhufain gan fyddin Fisigothaidd dan arweiniad eu brenin Alaric I. Wedi cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig, yr oedd y Fisigothiaid yn un o bwerau mawr Ewrop am gyfnod o ddwy ganrif a hanner.
Theodoric Fawr Mewn theori roedd Theodoric yn rheoli'r Eidal ar ran yr Ymerodraeth Fysantaidd, ond yn ymarferol roedd yn frenin annibynnol. Gwnaeth gynghrair a'r Ffranciaid a phriododd Audofleda, chwaer Clovis I. Yn 511 daeth yn reolwr teyrnas y Fisigothiaid yn Sbaen a de Gâl, lle roedd ymladd wedi bod rhwng hawlwyr yr orsedd ers i Alaric II gael ei ladd ym mrwydr Vouillé yn 507. Diorseddodd Theodoric yr hawliwr Gesaleic, a gwnaeth ei ŵyr ei hun, Amalaric, mab Alaric a Tindigota, merch Theodoric, yn frenin. Theodoric fu'n rheoli'r deyrnas ar ran Amalaric hyd ei farwolaeth, pan ddaeth Amalaric yn frenin annibynnol.
Verona Roedd y ddinas mewn safle strategol bwysig, lle roedd nifer o briffyrdd yn cyfarfod. Gorchfygodd Stilicho y Visigothiaid dan Alaric yma yn 403. Yn 489, cipiodd y Gothiaid y ddinas, ac adeiladodd Theodoric ei balas yno. Yn 569 cipiwyd hi gan Alboin, brenin y Lombardiaid.
Stilicho Yn 408 datblygodd cynllwyn ei ei erbyn gan rai o swyddogion y llys, yn enwedig Olympius. Cyhuddwyd ef o gynllwynio gydag Alaric ac o fwriadu gwneud ei fab yn ymerawdwr. Cymerwyd ef i'r ddalfa yn Ravenna, a dienyddiwyd ef ar 22 Awst. Llofruddiwyd ei fab Eucherius yn Rhufain yn fuan wedyn.
Yr Ymerodraeth Rufeinig Dilynwyd Theodosius gan ei ddau fab, Honorius yn y gorllewin ac Arcadius yn y dwyrain, ac ni chafodd y ddau ran eu had-uno eto. Erbyn hyn roedd y Fisigothiaid dan eu brenin Alaric I yn bygwth yr ymerodraeth. Yn 401 gwnaeth gytundeb ag Arcadius a'i galluogodd i arwain ei fyddin tua'r gorllewin, gan gipio dinasoedd Groegaidd megis Corinth a Sparta cyn cyrraedd Yr Eidal. Yno, gorchfygwyd ef gan y cadfridog Rhufeinig Stilicho ar 6 Ebrill 402 ym Mrwydr Pollentia. Wedi i Honorius lofruddio Stilicho yn 408, gallodd Alaric a'i fyddin ymosod ar yr Eidal eto a gosod gwarchae ar ddinas Rhufain. Ym mis Awst 410 cipiodd y ddinas a'i hanrheithio, gan ddwyn chwaer yr ymerawdwr, Gala Placidia, ymaith fel carcharor. Dyma'r tro cyntaf i'r ddinas gael ei chipio gan elyn ers 390 CC.